Yn dilyn lansiad Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron ym Mhowys, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wedi addo y bydd pob man cyhoeddus ledled Powys yn gyfeillgar i fwydo ar y fron.
Hyd yn hyn mae dros 250 o fusnesau a sefydliadau ledled Powys wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.
Mae bwydo ar y fron yn cael ei gydnabod fel un o'r ymyriadau pwysicaf ar gyfer gwella iechyd plant ac mae ganddo fanteision iechyd i famau hefyd. I fabanod, mae llaeth y fron yn diwallu holl anghenion maethol y babi, ac mae'n cynnig amddiffyniad rhag heintiau a chlefydau. Mae mamau hefyd yn elwa o fanteision iechyd gan gynnwys cryfhau'r berthynas rhwng mam a babi a lleihau'r risg o rai mathau o ganser, diabetes a gordewdra. Yr hiraf y bydd mam yn bwydo ar y fron, y fwyaf o fanteision iechyd y bydd iddi hi ac i’w babi.
Ym Mhowys, lansiwyd y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron ym mis Awst 2024. Nod y cynllun yw grymuso mamau sy'n bwydo ar y fron a'u teuluoedd i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus wrth fwydo ar y fron allan yn y gymuned. Ei nod yw normaleiddio bwydo ar y fron drwy alluogi busnesau a chymunedau i ddangos eu bod yn croesawu ac yn cefnogi bwydo ar y fron.
Mae Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) yn cefnogi'r cynllun a dywedodd, ‘Mae bwydo ar y fron yn ymyrraeth iechyd cyhoeddus hynod gost-effeithiol, sy'n cynnig manteision iechyd i famau a babanod. Mae'n braf gweld bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wedi addo cefnogi'r fenter bwysig hon’.
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Mae'n wych gweld cymaint o fusnesau a sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer y fenter hon. Rwy'n gallu siarad o brofiad uniongyrchol am fanteision bwydo ar y fron, sy'n rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i fabanod sydd â llawer o fanteision i'r fam a'r plentyn.
"Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i annog a chefnogi bwydo ar y fron, ac un o'r ffyrdd y gallwn helpu mamau ym Mhowys i barhau i fwydo ar y fron yw trwy ei gwneud mor hawdd a chyfforddus â phosibl i fwydo tra byddant yn crwydro o gwmpas.
"Os gwelwch chi'r poster Croesawu Bwydo ar y Fron, byddwch chi'n gwybod ei fod yn amgylchedd cyfforddus a chefnogol i chi fwydo'ch babi. Byddem wrth ein bodd pe bai cymaint o fusnesau â phosibl yn cofrestru a dangos eu cefnogaeth i famau."
Dywedodd Laura, mam sy'n bwydo ei babi naw mis oed ar y fron ar hyn o bryd, am y cynllun “Rwy'n credu ei fod yn wych, mae'n rhoi'r hyder i famau sy'n bwydo ar y fron o wybod y gallwch chi fwydo’n gyhoeddus a bod lleoliadau sy'n groesawgar ac yn gefnogol iawn ohono”.
Hyd yn hyn, mae dros 250 o fusnesau a sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, caffis a bwytai, siopau trin gwallt, meddygfeydd a llawer mwy. Mae pob lleoliad sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun yn derbyn sticer ffenestr i ddangos eu bod wedi cofrestru, ac mae eu manylion hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan i alluogi teuluoedd i chwilio am leoliadau sy'n croesawu bwydo ar y fron pan fyddant allan ym Mhowys.
Mae Lauren, rheolwraig yng Nghlwb Golff Llanfair-ym-Muallt, yn croesawu grŵp bach o famau sy'n ymweld am goffi bob wythnos. Dywedodd; “Fe wnaethon ni ymuno â’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron i gefnogi teuluoedd lleol. Mae hefyd yn hynod fuddiol i'm busnes. Mae'r mamau a'r babanod yn cwrdd mewn grŵp babanod bob wythnos, yna maen nhw'n dod yma ac yn gallu cael rhywbeth i'w fwyta ac yfed. Mae'n amgylchedd cynnes a chroesawgar ac mae'n lle braf iddyn nhw gwrdd ag eraill â'u babanod".
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, neu os hoffech gofrestru eich sefydliad neu fusnes, cysylltwch â Fiona Valentine – Fiona.Valentine2@wales.nhs.uk neu ewch i Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Powys.
Rhyddhawyd: 19/05/2025