Neidio i'r prif gynnwy

Mae preswylwyr Cartrefi Gofal yn derbyn brechiad ym mhob rhan o'r sir

Mae ein tîm yn ymweld â chartrefi gofal ledled y sir i ddarparu brechiad COVID-19.

Ymwelodd Tîm Nyrsio Ardal y Drenewydd â Plas Cae Crwn a Bethshan ddydd Mawrth, gyda brechiad COVID-19 yn cael ei ddarparu i 56 o drigolion.

Bydd mwyafrif preswylwyr cartrefi gofal Powys ar gyfer oedolion hŷn wedi derbyn eu brechiad dos cyntaf erbyn diwedd yr wythnos hon *.

Diolchwn i'n holl staff sy'n gweithio mor anhygoel o galed ledled y sir i ddod â'r brechiad COVID i gynifer o bobl â phosibl cyn gynted â phosibl.

Mae hwn yn ymgymeriad enfawr sy'n cynnwys staff o bob disgyblaeth ac adran.

Rydym yn gwybod pa mor awyddus yw pobl i gael eu brechu a gofynnwn ichi gadw gyda ni. Rydym yn profi niferoedd galwadau uchel iawn i'n canolfannau galwadau ac yn archebu pobl i mewn cyn gynted ag y gallwn. Os yw'ch galwad wedi'i datgysylltu, mae hyn oherwydd bod pob llinell yn brysur, ffoniwch yn ôl.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 yn Powys ar gael ar ein gwefan yn https://pthb.nhs.wales/coronavirus/covid-19-vaccination/

Arhoswch i gysylltu â chi i gael eich gwahodd am eich brechiad, a dim ond mynychu apwyntiad wedi'i gadarnhau.

Mae llythyrau gwahoddiad yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd yn seiliedig ar y rhestr flaenoriaeth genedlaethol, gan ddechrau gyda gwahoddiadau i bobl 80 oed a hŷn.

Dylai pawb 80 oed a hŷn (tua 10,000 o bobl) sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu Powys dderbyn eu llythyr gwahoddiad erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa, bwrdd iechyd, ysbyty neu awdurdod lleol ynghylch apwyntiad, ac eithrio mewn ymateb i wahoddiad uniongyrchol.