Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau ariannol ar y GIG yn sbarduno newid mewn statws uwchgyfeirio BIAP

Mae'r statws uwchgyfeirio cenedlaethol ar gyfer BIAP wedi'i gynyddu o "fonitro uwch" (lefel 3) i "ymyrraeth wedi'i thargedu" (lefel 4) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Efallai y byddwch yn ymwybodol bod gan Lywodraeth Cymru Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y Cyd. Drwy'r trefniadau hyn maent yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn gydag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i drafod materion a phryderon am bob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth ac Awdurdod Iechyd Arbennig.

Fel rhan o'r Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y Cyd. Mae Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru yn cael statws ymyrraeth ac uwchgyfeirio mewn pum band:

  • Trefniadau Arferol (lefel 1)
  • Maes Pryder (lefel 2)
  • Monitro Uwch (lefel 3)
  • Ymyrraeth Wedi'i Thargedu (lefel 4)
  • Mesurau Arbennig (lefel 5)

Mae'r GIG ar draws y wlad yn wynebu cyd-destun heriol iawn o ran cyllid a chynllunio, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu'n fawr iawn yn ein sefyllfa yma ym Mhowys:

  • 2022/23 oedd y tro cyntaf ers 2015 ni lwyddodd BIAP sicrhau sefyllfa mantoli ariannol, gan ddod â'r flwyddyn i ben gyda diffygion o £7m.
  • Ar gyfer 2024/25, bydd y cynllun yr ydym wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn dod â'r flwyddyn sydd i ddod i ben gyda sefyllfa diffygion o £23m.
  • Ein cyllideb gyffredinol yw tua £400m y flwyddyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwario ychydig dros £1m bob dydd, ond mae ein sefyllfa diffygion yn golygu ein bod yn gwario £90,000 bob dydd na allwn ei fforddio.

O ystyried hyn, roeddem yn disgwyl yn fawr y byddai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei uwchgyfeirio o "fonitro uwch" i "ymyrraeth wedi'i thargedu" ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. Bydd hyn yn golygu mwy o graffu a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn golygu y byddwn ni fel Bwrdd yn parhau i gadw ein ffocws yn gadarn ar ansawdd, darpariaeth a chyllid.

Rydym yn parhau i fod mewn "trefniadau arferol" ar gyfer pob agwedd arall ar ddarpariaeth y Bwrdd Iechyd.

Mae cyflwyno cynllun cytbwys rhwng 2015 a 2022 - ynghyd â'ch tosturi, eich ymrwymiad a'ch sgiliau eithriadol - yn dangos yn glir yr hanes gwych sydd gennym yn BIAP, sy'n rhoi hyder i ni fod gennym y sylfeini cywir i ddod drwy'r heriau hyn. Fel yr ydym wedi bod yn rhannu dros y misoedd diwethaf, mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu ein llwybr at gynaliadwyedd, byddwn yn parhau i ddatblygu hwn gan weithio'n agos gyda'n staff, partneriaid a'r cyhoedd i sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd cynaliadwy ym Mhowys ar gyfer y dyfodol.

O ystyried costau cynyddol a’r galw cynyddol, mae angen i ni i gyd fod yn rhan o sgwrs agored a gonest gyda'r cyhoedd am sut olwg sydd ar y gwasanaeth iechyd a gofal yn y dyfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y GIG yng Nghymru.

Hayley Thomas, Chief Executive 

Mae rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad hwn a'r statws uwchgyfeirio ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru ar gael o wefan Llywodraeth Cymru yn Datganiad Llafar: Sefydliadau GIG Cymru – diweddariad uwchgyfeirio (5 Tachwedd 2024) | LLYW.CYMRU

Bwrdd Iechyd

Statws Cyfredol (Tachwedd 2024)

BIP Aneurin Bevan

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â llwybrau gofal brys ac argyfwng yn adran argyfwng Ysbyty Athrofaol y Faenor.

BIP Betsi Cadwaladr

Lefel 5

BIP Caerdydd a'r Fro

Lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

BIP Cwm Taf Morgannwg

Lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS).

Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys ac argyfwng, canser a gofal wedi'i gynllunio.

BIP Hywel Dda

Lefel 4

BIA Powys

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

BIP Bae Abertawe

Lefel 3 ar gyfer mamolaeth a newyddenedigol.

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau.