Mae'r bobl gyntaf ym Mhowys i gael y brechiad COVID-19 newydd wedi derbyn eu dos cyntaf heddiw (8 Rhagfyr 2020) yn Ysbyty Bronllys.
Mae cannoedd o weithwyr iechyd a gofal o'r sir wedi bwcio i gael eu brechu heddiw ac mae miloedd mwy yn cael eu bwcio yn y cyfnod cyn y Nadolig fel rhan o'r datblygiad carreg filltir hon.
Eleri Tossell oedd y person cyntaf ym Mhowys i dderbyn y brechlyn COVID pan agorodd y ganolfan frechu’r bore yma.
Mae Eleri yn Nyrs Ardal o Ystradgynlais a dywedodd “Cefais y brechlyn ar gyfer amddiffyn, er mwyn i mi allu gweithio a gofalu am fy nghleifion yn ddiogel. Cafodd fy ngŵr COVID yn ôl ym mis Ebrill ac roedd yn sâl iawn felly rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon pa mor ddifrifol y gall y salwch hwn fod.”
Mae Dr Anja Pinhorn yn gweithio yn ysbyty Aberhonddu a derbyniodd y brechlyn y bore yma hefyd. Esboniodd “Rydw i dros 50 oed, sy'n gwneud peryglon COVID hyd yn oed yn fwy difrifol. Rwy’n falch fy mod wedi cael y brechlyn y bore yma ac ni anafwyd o gwbl.”
Esboniodd Tammy Sully, arweinydd tîm gofal cartref a gweithiwr Gofal Cartrefol Trudy Smith “mae cael y brechlyn yn diogelu ein teulu ni a'r rhai rydyn ni'n gweithio gyda. Rydym yn hapus iawn i fod ymhlith y bobl gyntaf sydd wedi'u brechu. Roedd y broses yn hawdd iawn a byddwn yn dod yn ôl am ein hail ddos yn y flwyddyn newydd.”
Mae'r rhaglen imiwneiddio yn defnyddio'r brechlyn Pfizer / BioNTech COVID-19, sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth o ddiogelwch ac effeithiolrwydd. Oherwydd y gofynion penodol iawn ar gyfer rheoli a storio tymheredd ar gyfer y brechlyn hwn, mae'n cael ei ddarparu i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen y sir yn y lle cyntaf o ddau ganolbwynt brechu.
Mae gwaith ar y gweill i ehangu'r brechiad cyn gynted â phosibl i bobl mewn cartrefi gofal a phobl dros 80 oed. Mae penderfyniadau ar argaeledd brechlyn yn seiliedig ar ganllawiau arbenigol gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI).
Cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â brechu ehangach aelodau o'r cyhoedd, byddwn yn cyfathrebu hyn yn eang ledled Powys. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu fferyllydd ynglŷn â'r brechlyn COVID ar hyn o bryd.
Mae gwahoddiadau i weithwyr iechyd a gofal yng ngham cyntaf y rhaglen frechu hon wedi'u hanfon atynt gan eu cyflogwr. Mae apwyntiadau yn cael eu cynnig ym Mronllys a'r Drenewydd yn y lle cyntaf.
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghymru ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.