Neidio i'r prif gynnwy

Mae "Rhith-Ymweld" ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch iawn o gyhoeddi bod pob ward cleifion mewnol bellach yn gallu cynnig "ymweliad rhithwir" i'n holl gleifion, eu teuluoedd, eu hanwyliaid a'u gofalwyr. Mae hyn yn golygu y gallwn alluogi teuluoedd ac anwyliaid i gadw mewn cysylltiad o dan y rheolau ymweld cyfyngedig oherwydd pandemig Covid 19. Mae'r cynllun yn defnyddio dyfeisiau symudol i gynnig galwadau fideo a sain i'ch helpu i gadw mewn cysylltiad yn ystod COVID-19.
 
Er mwyn bwcio galwad, siaradwch â staff y ward yn y lle cyntaf.
 
Sylwch, ar rai adegau yn ystod y dydd, efallai na fydd yn bosibl bwcio galwad i siarad â'ch anwyliaid tra bod ein staff yn ymgymryd â gofal rheolaidd ac ar adeg prydau bwyd.
 
Os oes gan eich anwyliaid gyfrif e-bost personol, gellir cysylltu â nhw drwy'r cyfrif hwn ar adeg y cytunwyd arni gyda staff y ward.
 
Os nad oes gan eich anwyliaid gyfrif e-bost personol, gallwch bwcio galwad gyda staff y ward a fydd yn cysylltu â chi ar adeg yr alwad. Bydd angen i chi ddarparu cyfeiriad e-bost/rhif ffôn i staff y ward er mwyn iddynt cysylltu â chi.

Mae mwy o wybodaeth am drefniadau ymweld yn ystod COVID-19 ar gael o'n tudalen Ymweld.