Neidio i'r prif gynnwy

Staff Rhyngwladol yn pasio arholiadau OSCE

Mae grŵp o nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol sydd wedi’i leoli yn y Drenewydd wedi bod yn dathlu pasio eu harholiadau OSCE.

Mae’r grŵp o chwech i gyd yn tarddu o India ac wedi’u recriwtio gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i helpu lleihau’r ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth.

Mae'r Arholiad Clinigol Strwythuredig Amcan (OSCE) yn ardystiad cymhwysedd clinigol a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer staff nyrsio ac mae'n ofynnol i bob aelod o staff a addysgir yn rhyngwladol basio i nyrsio yn ysbytai Powys.

Mae’r tîm wedi’i leoli yng Nghlafdy Sirol Maldwyn yn y Drenewydd ac mae’r staff wedi’u cyflogi’n barhaol. Mae staff parhaol yn lleihau costau i’r bwrdd iechyd i gymharu â chyflogi staff ar yr asiantaeth.

David Farnsworth yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol gyda’r bwrdd iechyd. Ychwanegodd: “Llongyfarchiadau i’n holl gydweithwyr sydd wedi pasio eu harholiadau OSCE ac rydym yn estyn croeso cynnes i chi i dîm y bwrdd iechyd.  Rydym wrth ein boddau eich bod chi wedi dewis i barhau eich gyrfa gyda ni, ac rydyn ni’n barod wedi gweld y cyfraniad rydych chi a’ch cydweithwyr wedi gwneud i’r GIG yma ym Mhowys.”

“Rydyn i’n gwybod trwy leihau ein dibyniaeth ar nyrsys asiantaeth drud, gallwn leihau ein costau ond, nid yn unig hynny, trwy sicrhau parhad staff, gallwn wella ansawdd ein gofal.”

Ysbyty’r Trallwng oedd y cyntaf i dderbyn grŵp o nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol, yna’r Drenewydd. Mae trydydd grŵp yn dechrau gwaith yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi ym Machynlleth.

 

Llun: Yn y llun yn ysbyty’r Drenewydd mae (o’r chwith), Rose Mary Sunny; Blessy Bijo; Ganga John; Bilha Benny; Poornima Kunjumon ac Reshma Haridas.