Mae Powys wedi pasio 33,000 o frechiadau i’w thrigolion dros 70 oed, gan gynnwys pobl fregus a staff iechyd a gofal rheng flaen, ac mae hyn yn garreg filltir bwysig i'r rhaglen brechu torfol.
Mae’r gwaith o gyflwyno'r brechlyn ym Mhowys wedi bod yn anhygoel, gyda staff a gwirfoddolwyr yn mynd y tu hwnt i’r galw i sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i gael eu brechu cyn gynted â phosibl. Ond gallai’r holl waith caled hwn gael ei danseilio os na fydd pobl yn ofalus ynghylch ymbellhau cymdeithasol a hylendid personol ar ôl iddynt gael eu brechu.
Gall amrywiolyn newydd y feirws ledaenu'n haws, ac mae wedi bod yn lledaenu ym mhobman yng Nghymru ers dechrau mis Ionawr. Mae'r amrywiolyn newydd yn llawer mwy heintus, ac os na fyddwn ni’n ofalus, bydd yr amrywiolyn hwn yn parhau i ledaenu yn ein cymunedau.
Mae unedau a staff profion symudol cenedlaethol a lleol wedi bod yn profi pobl ledled Powys yn ddiflino ers bron i flwyddyn, gan sicrhau bod preswylwyr yn cael prawf cyflym a chywir o fewn 24 awr. Gydag amrywiolyn newydd sy'n gallu cael ei drosglwyddo’n haws rhwng pobl, mae'r timau profi yn annog pobl i fynd i'w huned brofi agosaf os byddant yn mynd yn sâl gydag unrhyw un o'r arwyddion a'r symptomau, sef tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus, colli, neu newid i arogl neu flas. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i ddatblygu opsiynau profi pellach sy'n anelu at reoli'r feirws.
Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mhowys: “Hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechlyn COVID19, mae'n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol. Fe allech chi barhau i gario a throsglwyddo'r feirws i bobl fregus eraill, hyd yn oed oes ydych chi wedi'ch diogelu.
"Mae'r gyfradd heintio yn parhau i fod yn uchel ym Mhowys a ledled Cymru, felly mae'n fwy hanfodol nag erioed, os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau’r coronafeirws, mae'n rhaid i chi hunanynysu ar unwaith yn gyntaf, ac archebu prawf cyn gynted â phosibl. Cadw pellter cymdeithasol a hylendid personol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o osgoi dal y feirws.
"Dylai cael y brechlyn roi tawelwch meddwl i bobl, ond fel pob brechlyn, boed yn frechlyn ffliw neu feirws arall, maen nhw’n cynnig lefel uchel o ddiogelwch, ond ni fyddant 100% yn effeithiol i bawb. Gallai pobl ddal coronafeirws heb ddangos unrhyw arwyddion a symptomau clir, yna ei drosglwyddo i rywun a allai fynd yn sâl iawn."
Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) ac mae'n rhaid i bobl ddilyn y canllawiau cenedlaethol ac:
• aros gartref
• peidio â chwrdd â neb ond y bobl rydych chi'n byw gyda nhw
• gweithio gartref os medrwch
• gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
• golchi eich dwylo'n rheolaidd
• arhoswch 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw
Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.
Gellir archebu apwyntiadau yn y Trallwng, Tref-y-clawdd, y Drenewydd ac Aberhonddu drwy borth archebu cenedlaethol Llywodraeth y DU, naill ai ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test, dros y ffôn ar 119, neu 18001 119 ar gyfer pobl ag anawsterau clyw neu leferydd. Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.
Gall preswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau wneud apwyntiad yn yr uned brofi leol drwy ffonio 01874 612228 neu ar-lein yn powys.testing@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/