Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Profi Symudol yn dychwelyd i'r Gelli Gandryll a Llanfyllin o ddydd Llun 26 Ebrill

Bydd yr unedau profi symudol yn dychwelyd i'r Gelli Gandryll a Llanfyllin o ddydd Llun 26 Ebrill er mwyn annog pobl i barhau i gael prawf coronafeirws os ydyn nhw'n teimlo'n sâl.

Bydd yr uned wedi'i lleol yn yr un man â'r tro diwethaf, sef Maes Parcio'r Cae Chwarae, Heol Aberhonddu, y Gelli Gandryll, a Maes Parcio Cyngor y Dref Llanfyllin, Y Stryd Fawr, Llanfyllin, ar gyfer preswylwyr gogledd Powys.

Mae'r timau profi yn annog pobl i barhau i fynd i'w huned brofi agosaf os byddant yn mynd yn sâl gydag unrhyw un o'r arwyddion a'r symptomau clasurol, sef tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus, colli, neu newid i arogl neu flas, neu os ydyn nhw'n teimlo'n sâl yn gyffredinol.

Dim ond drwy apwyntiad yn unig y gellir mynd i'r uned brofi sy'n cynnig gwasanaeth profi drwy ffenest y car.

Mae dwy ganolfan brofi genedlaethol arall ar gael i breswylwyr, yn y Drenewydd ac Aberhonddu lle gallwch gerdded, gyrru neu feicio am brawf, ac Unedau Profi Cymunedol ychwanegol yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng ar gyfer apwyntiad drwy ffenest y car.

Mae lleoli'r unedau teithiol yn rhan o raglen dreigl o brofion symudol i sicrhau bod profion COVID-19 ar gael i breswylwyr mor agos i'w cartrefi â phosibl. Gall preswylwyr sy'n teimlo symptomau ond sy'n methu â mynd i uned brofi symudol ofyn am Becyn Profi Cartref, a ddanfonir i'ch cartref.

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • mae'r cyfyngiadau cadw'n lleol wedi'u llacio
  • gallwch gwrdd yn yr awyr agored â 6 o bobl o 6 aelwyd 24 Ebrill
  • cadw pellter cymdeithasol
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb yn y siop ac mewn mannau cyhoeddus eraill dan do, oni bai bod gennych esgus rhesymol dros beidio â gwneud

Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Gellir archebu apwyntiadau yn y Gelli Gandryll, Llanfyllin, y Drenewydd ac Aberhonddu drwy borth archebu cenedlaethol Llywodraeth y DU, naill ai ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test, dros y ffôn ar 119, neu 18001 119 ar gyfer pobl ag anawsterau clyw neu leferydd. Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.

Gall preswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng wneud apwyntiad yn yr Uned Brofi Gymunedol drwy ffonio 01874 612228 neu drwy e-bostio powys.testing@wales.nhs.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Rhannu:
Cyswllt: