Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd trigolion Powys i gyfres o 13 digwydd galw heibio cymunedol fel rhan o'i raglen Gwella Gyda'n Gilydd.
Mae digwyddiadau galw heibio “Eich Gwasanaethau Iechyd” yn digwydd rhwng Tachwedd a Chwefror, gan ddechrau yn Aberhonddu ddydd Mercher 26 Tachwedd a dod i ben yng Nghrucywel ddydd Iau 12 Chwefror.
Dywedodd Adrian Osborne, Dirprwy Gyfarwyddwr gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Gwella Gyda’n Gilydd yw ein sgwrs fawr gyda phobl Powys i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd y sir. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau iechyd yn wynebu heriau ar hyn o bryd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynllun sy'n diwallu anghenion iechyd cymunedau Powys dros y 10 i 25 mlynedd nesaf a thu hwnt.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r sir wedi profi llawer o newidiadau. Mae cymunedau'n mynd yn hŷn – ac, wrth i ni heneiddio, mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau iechyd lluosog. Mae effaith pandemig COVID-19 dal i’w gweld ar wasanaethau, gyda galw cynyddol am driniaethau a rhestrau aros sy'n tyfu. Mae cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar y ffordd rydym yn rheoli ein hiechyd a'n lles. Ac mae newidiadau yn y gymdeithas yn golygu bod cyfran y bobl o oedran gweithio yn lleihau. Drwy gydweithio gallwn ddatblygu datrysiadau sy'n gweithio i Bowys.”
Bydd trigolion yn gallu siarad ag aelodau o Dîm Ymgysylltu’r bwrdd iechyd, darganfod mwy am y rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd, a rhannu eu barn ar wasanaethau iechyd.
“Yn ystod 2025 mae rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd wedi canolbwyntio ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol i oedolion, yn ogystal â’r newidiadau dros dro i wardiau ac Unedau Mân Anafiadau. Wrth edrych ymlaen, byddwn hefyd yn canolbwyntio ar wasanaethau i fenywod a phlant, gofal wedi'i gynllunio, a gwasanaethau diagnostig. Ein digwyddiadau cymunedol rhwng Tachwedd a Chwefror yw eich cyfle i ddysgu mwy a dweud eich dweud ar y gwaith hyd yn hyn, ac ar y dyfodol.”
Ochr yn ochr â Gwell Gyda'n Gilydd a newidiadau dros dro i wasanaethau, bydd gwybodaeth hefyd ar gael am amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim SilverCloud, Gwella'r Daith Canser ym Mhowys, Helpu Ni i'ch Helpu Chi a mwy.
Mae'r 13 digwyddiad galw heibio yn digwydd rhwng 3yp a 6yp mewn cyfres o leoliadau ledled y sir:
Diwedd...
Nodiadau Golygyddol:
Cyhoeddwyd 17/11/25