Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cais i gau meddygfa Belmont wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cytuno i dderbyn cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau ei feddygfa yng Ngilwern, Sir Fynwy.

Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd ar 24 Mai 2023 yn unol â phroses adolygu meddygfeydd y bwrdd iechyd, sydd wedi cynnwys: adolygu’r cais gan y practis, ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid lleol; ystyriaeth fanwl o ddewisiadau amgen i dderbyn y cais; a nodi dulliau gweithredu dylai eu gweithredu os yw’r cais yn cael ei dderbyn.

Trafododd y Bwrdd gryfder clir y teimlad dros y cais hwn. Ond, gan fod opsiynau amgen ar gyfer cynnal Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol wedi cael eu harchwilio'n ddigonol rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ond ni ddarganfuwyd unrhyw opsiynau hyfyw, derbyniodd y Bwrdd argymhelliad y Panel Adolygu Meddygfeydd i gymeradwyo'r cais.

Mae’r Bwrdd yn cydnabod y byddai'r penderfyniad hwn yn siomedig iawn i gleifion lleol, a chytunodd ar gynllun lliniaru i ymateb i faterion a phryderon a godwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu. Cytunodd y Bwrdd felly y dylai'r feddygfa gau dim cynt na 30 Tachwedd 2023 er mwyn gallu gweithredu'r cynllun hwn, gyda'r diweddariadau yn cael eu cytuno arnynt yng nghyfarfodydd y Bwrdd bob deufis.

Mae'n bwysig pwysleisio bydd pob claf yn parhau i gadw ei gofrestriad gyda Phractis Grŵp Crucywel sy'n parhau i fod yn ymrwymedig dros ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i bob claf yn nalgylch eu practis. Maen nhw hefyd yn parhau i fod yn agored i gofrestriadau newydd gan gleifion yn eu dalgylch.

Hoffai Practis Grŵp Crucywel tawelu meddwl cleifion o Gilwern a'r cymunedau cyfagos trwy nodi y gallant barhau i ddefnyddio holl wasanaethau’r Practis o Ganolfan Iechyd Coffa Rhyfel Crucywel. Bydd ymgynghoriadau dros y ffôn, ymweliadau â chartrefi, a holl wasanaethau sydd ynghlwm â'r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod ar gael yn ôl yr angen.

Yn ddiweddarach yr haf hwn bydd Practis Grŵp Crucywel yn ysgrifennu at aelwydydd pob claf gyda chofrestriad â’r practis gyda manylion pellach am y newidiadau hyn ac i roi gwybod am y cau. Bydd y Practis hefyd yn nodi manylion am fynediad parhaus cleifion i wasanaethau’r practis yn adeilad Canolfan Iechyd Coffa Rhyfel yng Nghrucywel yn ogystal â llwybrau gwasanaethau iechyd eraill gan gynnwys dros y ffôn ac ar-lein.

Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i rannu diweddariadau rheolaidd dros y misoedd nesaf, gan gynnwys unrhyw gynnydd ar y cynllun lliniaru.

 

Cyhoeddwyd: 24/05/2023