Neidio i'r prif gynnwy

Maes Parcio Newydd i Ysbyty Aberhonddu

Bydd Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog yn cael maes parcio newydd, gan ddod â 70 o leoedd ychwanegol, yn dilyn buddsoddiad o £1.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau elusennol.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Ysbyty Aberhonddu wedi cael buddsoddiad sylweddol i wella’i wasanaethau, gan ganiatáu i fwy o gleifion derbyn gofal yn nes at adref, ac o ganlyniad, mae'r ysbyty wedi gweld cynnydd sylweddol mewn nifer o bobl sy’n ymweld â’r safle. Oherwydd natur wledig Powys, mae angen i gyfran uchel o gleifion deithio i'r safle mewn car, ac mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar y ddarpariaeth parcio yn Aberhonddu a’r hygyrchedd i gleifion.

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £1.05 miliwn o gyllid cyfalaf, yn ogystal â £0.55 miliwn o gyllid a gafwyd gan nifer o ffynonellau elusennol.

Mae'r prosiect eisoes wedi cael cymeradwyaeth i adeiladu maes parcio i'r gogledd o'r ysbyty a fydd yn creu 70 lle parcio ychwanegol. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r prosiect, mae datgarboneiddio a bioamrywiaeth wedi bod yn elfennau allweddol, gan ddylanwadu'n sylweddol ar y broses dylunio:

  • Defnyddio deunyddiau a methodoleg sy’n cael effaith isel
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • Goleuadau sy’n defnyddio lefel isel o ynni ac yn ystyriol o’r amgylchedd
  • Diogelu coed aeddfed a systemau gwreiddiau presennol
  • Suddfannau naturiol
  • Parthau ecoleg
  • Defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu
  • Ailblannu 2 goeden i bob coeden wedi’i effeithio gan y gwaith

Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i addasu a datblygu’r maes parcio presennol, gan gynnwys cyflwyno ychydig o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ychwanegol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rwy'n falch o gyhoeddi'r buddsoddiad hwn i helpu i wella hygyrchedd i gleifion yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog. Mae'r maes parcio newydd wedi'i gynllunio i gefnogi ein cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru."

Dywedodd Hayley Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr BIAP a Chyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad: "Bydd y buddsoddiad cyfalaf o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru yn darparu gwell mynediad i’r cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau iechyd a gofal yn yr ysbyty. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Garfield West, Cronfa Etifeddiaeth Aberhonddu, Sefydliad Tenovus/Moondance a Chynghrair y Cyfeillion sydd hefyd wedi gwneud cyfraniadau ariannol allweddol tuag at y prosiect hwn."

Dywedodd Fiona Jones, Cadeirydd Cynghrair y Cyfeillion Ysbyty Aberhonddu, "Mae Cynghrair y Cyfeillion yn falch iawn o gefnogi'r ysbyty gyda'r maes parcio newydd arfaethedig. Mae nifer y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn Aberhonddu wedi cynyddu'n sylweddol ac o ganlyniad yn caniatáu i gleifion gael eu trin yn lleol. Mae'n hen bryd bod yna fwy o le yn y mes parcio a bydd yn sicr yn ychwanegiad ardderchog i'n hysbyty gwych."

Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn y flwyddyn newydd a’i gwblhau erbyn yr hydref.

Rhannu:
Cyswllt: