Neidio i'r prif gynnwy

Mesurau arbed ynni ac arbed costau i'w rhoi ar waith ar draws Powys wrth i'r Bwrdd Iechyd dderbyn £4.2m

Bydd gosod paneli solar newydd, gwell systemau gwresogi a goleuadau LED yn ogystal ag uwchraddio inswleiddio’r to a phibellau yn digwydd mewn ysbytai ledled Powys, diolch i £4.2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud eu hadeiladau a'u hasedau'n fwy effeithlon o ran ynni. Mae eu rhaglen Re:fit Cymru yn galluogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau arbedion a lleihau effeithiau carbon drwy gyrchu Contractau Perfformiad Ynni.

Er mwyn cefnogi symud i amgylchedd gwaith a gofal iechyd mwy diogel, iachach wedi’i ddatgarboneiddio mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi caffael Vital Energi fel Darparwr Gwasanaeth drwy'r Fframwaith Re:fit.

Bydd y grant yn darparu cyllid i ymgymryd ag ystod o fesurau ar draws nifer o safleoedd i leihau'r defnydd o ynni, gan gynnwys:

  • Gosod paneli solar ar y to
  • Uwchraddio systemau rheoli adeiladau i ganiatáu monitro o bell a mwy o reolaeth dros wresogi lleol
  • Uwchraddio trwy inswleiddio’r to a phibellau
  • Goleuadau LED

Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn creu gwell amgylcheddau i gleifion a staff.

Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd y buddsoddiad yn darparu amcangyfrif o £415,718 o arbedion cost ynni blynyddol i BIAP a bydd yn lleihau allyriadau’r ysbytai oddeutu 350 tunnell o garbon bob blwyddyn.

Bydd gwaith yn cael ei wneud ar draws y safleoedd canlynol:

  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog
  • Ysbyty Bronllys
  • Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi
  • Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes
  • Canolfan Iechyd Llanwrtyd
  • Canolfan Iechyd Tŷ Illtyd, Aberhonddu
  • Ysbyty Coffa Victoria
  • Heol Waterloo, Llandrindod
  • Clinig Iechyd Y Trallwng
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais
  • Heol Sba, Llandrindod

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Rhagfyr a bydd yn rhedeg tan fis Mehefin 2025 a bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol ar draws y safleoedd penodol. Bydd gwybodaeth ac ymgysylltiad manylach â rhanddeiliaid perthnasol ar bob safle yn cael eu darparu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer fframwaith Re:fit Cymru yn gweithredu i alluogi effeithlonrwydd ynni a sicrhau buddion datgarboneiddio ar draws ystâd y Bwrdd Iechyd ym Mhowys," eglurodd Wayne Tannahill, Cyfarwyddwr Cyswllt Cyfalaf, Ystadau ac Eiddo gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ychwanegodd: "Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gydag Vital Energi ar y rhaglen gyffrous hon, a fydd yn gwella amgylcheddau cleifion a staff, yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gyflawni amcanion Cynllun Gweithredu Strategol Datgarboneiddio'r sefydliad a gwneud arbedion ariannol."

Ychwanegodd Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Vital Energi: "Mae'r fframwaith RE:FIT wedi profi i fod yn arf pwerus i Fyrddau Iechyd Cymru gyrraedd eu targedau datgarboneiddio uchelgeisiol. Trwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae Vital Energi yn gweithredu mesurau arbed ynni gwarantedig sydd nid yn unig yn cyflawni arbedion ariannol ond sydd hefyd yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol. Gyda'n gilydd, rydym yn gosod y ffordd ar gyfer system gofal iechyd fwy cynaliadwy yng Nghymru."