18 Medi 2026
Mae sepsis yn ymateb sy’n peryglu bywyd i haint, a gall effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran. Gall adnabod arwyddion sepsis yn gynnar a gweithredu’n gyflym wneud gwahaniaeth hanfodol. Yn aml, gellir trin sepsis yn effeithiol os caiff ei adnabod yn gynnar.
Y mis hwn, rydym yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adnabod sepsis a cheisio cymorth meddygol brys pan fo angen.
Dywedodd Gareth Thomas, ein Pennaeth Nyrsio ar gyfer Sepsis:
“Mae adnabod sepsis yn gynnar yn hollbwysig. Gall gwybod yr arwyddion, ymddiried yn eich greddf a cheisio cymorth meddygol brys pan fo angen achub bywydau. Gall sepsis ddatblygu’n gyflym, felly mae deall yr hyn i edrych amdano a gweithredu heb oedi yn hanfodol er mwyn gwella canlyniadau. Mae sepsis yn argyfwng meddygol sy’n effeithio ar fwy na 245,000 o bobl bob blwyddyn yn y DU. Ond gall gwybod yr arwyddion – a gweithredu’n gyflym – achub bywydau.”
Rydym yn annog pawb i ddysgu mwy am sepsis ac i ddeall y gall adnabod sepsis yn gynnar a darparu triniaeth brydlon achub bywydau.
Ymddiriedwch yn eich greddf. Os oes gennych chi neu rywun annwyl haint ac rydych yn teimlo bod rhywbeth o’i le, Gofynnwch: “Ai sepsis allai hyn fod?”
Dysgwch fwy am arwyddion a symptomau sepsis a sut y gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth y mis Medi hwn: Mis Ymwybyddiaeth Sepsis 2026 - Ymddiriedolaeth Sepsis y DU