Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o leoliadau i gasglu profion COVID-19 ym Mhowys

Bydd argaeledd profion COVID-19 ym Mhowys yn cynyddu o ddydd Llun 26 Gorffennaf gyda dyfeisiau llif ochrol ar gael i'w casglu o fwy o leoliadau ar draws y sir.

Mae dyfeisiau llif ochrol am ddim ar gyfer y rhai HEB symptomau eisoes ar gael i'w casglu o nifer o lyfrgelloedd ar draws Powys, ond erbyn hyn mae mwy o gyfleoedd i drigolion Powys gasglu dyfeisiadau o leoliad yn agos atynt. Y lleoliadau ychwanegol yw:

  • Llyfrgell Aberhonddu, Y Gaer, Glamorgan Street, Aberhonddu, Powys, LD3 7DW
  • Siop Neuadd Bentref Llanbadarn Fynydd, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod, Powys, LD1 6YA
  • Llyfrgell Llanfair Caereinion, Yr Athrofa, Bridge Street, Llanfair Caereinion, Powys, SY21 0RY
  • Llyfrgell Llanfyllin, Stryd Fawr, Llanfyllin, Powys, SY22 5DB
  • Llyfrgell Y Drenewydd, Park Lane, Y Drenewydd, Powys, SY16 1EJ
  • Llyfrgell Llanandras, The Old Market Hall, Broad Street, Presteigne, Powys, LD8 2AD
  • Llyfrgell Rhaeadr Gwy, West Street, Rhayader, Powys, LD6 5AB
  • Llyfrgell Talgarth, Talgarth, Aberhonddu, Powys, LD3 0DQ

 

Mae'r gwasanaeth llyfrgell ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau COVID-19. Dylai pobl â symptomau barhau i archebu prawf yn ein canolfannau profi ar draws Powys neu ofyn am brawf trwy'r post trwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffonio 119 (7yb i 11yh). Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Mae dyfeisiau ar gael o hyd o'r llyfrgelloedd canlynol yn ychwanegol at y lleoliadau newydd:

  • Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt Antur Gwy, Park Road, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3BA
  • Llyfrgell y Gelli Gandryll, Oxford Road, Y Gelli Gandryll, HR3 5BT
  • Llyfrgell Crughywel, Silver Street, Crickhowell. NP8 1BJ
  • Llyfrgell Llandrindod Wells, The Gwalia, Llandrindod, LD1 6AA
  • Llyfrgell Ystradgynlais, Temperance Lane, Ystradgynlais, SA9 1JJ
  • Llyfrgell Llanidloes, 5 Great Oak Street, Llanidloes SY18 6BN
  • Llyfrgell y Trallwng Y Lanfa, Y Glanfa, Glanfa'r Gamlas, Y Trallwng SY21 7AQ
  • Llyfrgell Machynlleth, Maengwyn Street, Machynlleth, Powys, SY20 8DY
  • Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Tref-y-Clawdd, Lawnt Fowlio, Tref-y-Clawdd, Powys, LD7 1DR

 

I gael mwy o wybodaeth ac oriau agor, ewch i: https://maps.test-and-trace.nhs.uk/

 

Mae dyfeisiau llif ochrol hefyd ar gael i'w casglu o'r fferyllfeydd canlynol ledled y sir:

  • Well Pharmacy, 7 The Bulwark, Aberhonddu, Powys, LD3 7LB

  • Boots, Bethel Square, Aberhonddu, Powys, LD3 7JP

  • Boots, 11 High Street, Llanfair ym Muallt, Powys LD2 3DN

  • Boots, Victoria House, Station Crescent, Llandrindod, Powys, LD1 5BB

  • Boots, 20-21 High Street, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NU

  • Boots, 16-17 Broad Street, Y Trallwng, Powys, SY21 7SD

  • Boots, Beaufort Street, Crughywel, Powys, NP8 1AD

  • Boots, 5 Wylcwm Place, Tref y Clawdd, Powys, LD7 1AE

  • Davies Chemists Limited, 43 Gyrnosfa, Gurnos, Cwmtwrch Isaf, Abertawe, SA9 1DR

  • JG & RJ Davies Chemists, The Pharmacy, 8 Commercial Street, Ystradgynlais, Abertawe, SA9 1HD

  • Lakeside Pharmacy, Princes Avenue, Llandrindod, Powys, LD1 5HU

  • Presteigne Pharmacy, 2 High Street, Llanandras, Powys, LD8 2BA

  • E W Richards Ltd, 30 Heol Eglwys, Ystradgynlais, Swansea, SA9 1EY

  • Llanidloes Pharmacy, 51 Long Bridge Street, Llanidloes, Powys, SY18 6EF

  • Rowlands Pharmacy, 8 Pentrehedyn Street, Machynlleth, Powys, SY20 8DN

  • Rowlands Pharmacy, London House, West Street, Rhaeadr Gwy, Powys, LD6 5AB

  • Rowlands Pharmacy, 20 Church Street, Y Trallwng, SY21 7DP

  • Lloydspharmacy, 27 Park Street, Y Drenewydd, Powys, SY16 1EF

  • P G J Davies Health Centre, Ffos Road, Llanwrtyd, Powys, LD5 4RG

  • Primrose Pharmacy, Garth House, High Street, Talgarth, Powys, LD3 0PF

  • RM Jones (Chemist) Ltd, 7-8 High Town, Y Gelli Gandryll, Hereford, HR3 5AE

  • Danby`s Pharmacy, Council House, High Street, Llanfyllin, SY22 5AA

  • Morrisons Pharmacy, Pool Road, Y Drenewydd, SY16 3AH

 

Mae Cymru i gyd ar lefel rhybuddio 1, ac mae'n parhau i fod yn hanfodol i bob un ohonom barhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i atal Coronafeirws rhag lledaenu. Mae hyn yn cynnwys dilyn rheolau pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb.

Mae'r datblygiad yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru.

Beth i'w wneud os oes gennych ganlyniad prawf llif ochrol positif

  • Os ydych chi'n cael prawf llif ochrol positif mae'n rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith am 10 diwrnod a chymryd prawf PCR mewn canolfan brawf o fewn 24 awr. Gallwch archebu prawf ar-lein ar GOV.UK, trwy ffonio 119 rhwng yr oriau 7yb i 11yh (mae galwadau am ddim) neu drwy ap GIG COVID-19.
  • Os yw'ch prawf PCR yn negyddol ac yn cael ei gymryd o fewn 24 awr i'ch prawf llif ochrol, gallwch adael hunan-ynysu.
  • Os oedd eich prawf PCR yn negyddol ond wedi'i gymryd fwy na 24 awr ar ôl eich prawf llif ochrol rhaid i chi a'ch cysylltiadau aros ar eu pennau eu hunain am y 10 diwrnod llawn o ddyddiad y prawf llif ochrol gwreiddiol.
  • Os yw'ch prawf PCR yn bositif ac wedi'i gymryd o fewn 24 awr i'ch prawf llif ochrol, rhaid i chi aros ar eich pen eich hun am 10 diwrnod o ganlyniad gwreiddiol y prawf llif ochrol.
  • Os na chymerwch brawf PCR o fewn 24 awr rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod.
  • Mae mwy o wybodaeth am brofion Llif Ochrol yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Profi llif ochrol i bobl heb symptomau | GOV.WALES

Mae mwy o wybodaeth am Brofi Coronafirws mewn Powys ar gael ar wefan Bwrdd Addysgu Iechyd Powys yn https://pthb.nhs.wales/find/ttp