Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys yn dechrau ar eu lleoliadau gwaith

Mae myfyrwyr cyntaf Academi newydd Iechyd a Gofal Powys wedi dechrau eu lleoliadau gwaith. Byddan nhw’n cefnogi gwasanaethau Iechyd Meddwl cymunedol yn Y Drenewydd a’r Trallwng.

Mae tri oedolyn ifanc wedi ymgymryd â swyddi yn Uned Fan Gorau yn Y Drenewydd a Chanolfan Adnoddau Bryntirion yn Y Trallwng. Mae hwn yn rhan o gynllun Kickstart, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd pedwerydd myfyriwr yn ymuno â nhw’n gynnar yr wythnos nesaf (16 Awst).

Byddan nhw’n rhoi cefnogaeth weinyddol i dimau sy’n helpu oedolion hŷn ac yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i oedolion am 25 awr yr wythnos am y chwe mis nesaf. Fel rhan o’u lleoliadau gwaith byddan nhw’n ymgymryd â rhaglen o ddysgu a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol fydd eu hangen arnynt i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy’r Academi mae Cynllun Kickstart yn cefnogi gweithwyr i greu swyddi ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol, sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir. Yn ystod eu lleoliadau chwe mis, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant i’w helpu i gael gwaith yn y dyfodol a hyfforddiant oddi wrth fentor yn y gweithle.

Mae’r myfyrwyr newydd yn cynnwys Rhys Warburton, 21 oed, sydd wedi dechrau lleoliad gwaith yng Nghanolfan Adnoddau Bryntirion yn Y Trallwng. Mae e’n dod o Landysul ger Trefaldwyn. Cyn hyn buodd Rhys yn gwirfoddoli yn Siop Elusen Severn Hospice yn Y Drenewydd.

“Ro’n i’n falch dros ben o gael y lleoliad Kickstart yma,’ meddai Rhys. ‘Dw i’n gobeithio mynd ti i ddatblygu gyrfa mewn gwaith gweinyddu.’

Mae swyddi gwag Cynllun Kickstart ar gael trwy’r Academi ar gyfer cynorthwywyr arlwyo a chynorthwywyr/porthorion yn Llandrindod, Y Drenewydd, Ystradgynlais, Aberhonddu a’r Trallwng; ar gyfer cynorthwywyr gweinyddol yn Y Drenewydd a Bronllys; a gweithwyr cymorth gofal iechyd o fewn timau therapïau yn Y Drenewydd ac Aberhonddu. Bydd mwy o swyddi ar draws y sector iechyd a gofal ar gael yn y misoedd nesaf.

Os ydych yn uchel eich cymhelliant, yn ymroddgar ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys, ac rydych yn gymwys ar gyfer Cynllun Kickstart, hoffen ni glywed gennych! Cysylltwch â’ch Hyfforddwr o’r Adran Gwaith a Phensiynau neu e-bostiwch: Powys.OD@wales.nhs.uk Mae dyddiadau dechrau ar gyfer lleoliadau gwaith ar gael tan ddiwedd y flwyddyn hon.

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Maen nhw’n cyd-weithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: “Mae’n wych gweld prosiect  Kickstart yn helpu pobl ifanc leol gymryd eu camau cyntaf mewn gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad mawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod llwybrau gwych ar gyfer pobl uchelgeisiol yn y sector hwn. Gobeithio y bydd y tri myfyriwr ifanc yma’n manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd gennym ym Mhowys.”

Bydd Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cyfleoedd wyneb yn wyneb a rhai digidol trwy bedair ysgol - Ysgol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ysgol Arweinyddiaeth, Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr, ac Ysgol Addysg Broffesiynol a Chlinigol a Hyfforddiant. Mae’r cyfleoedd ar gyfer gweithwyr yn y sector iechyd a gofal, y rheini sydd am gael gyrfa yn y sector, ac i wirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl sy’n cefnogi’r sector.

Mae hefyd yn cynnig cyngor a hyfforddiant i bobl sy’n edrych am yrfa newydd ym maes iechyd a gofal, gyda chymorth Grŵp Colegau NPTC, trwy Hyb Sgiliau Iechyd a Gofal Powys.

I wybod mwy, ffoniwch 0845 4086 253, e-bostiwch pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk neu ewch i wefan Grŵp Colegau NPTC: Hyb Sgiliau Iechyd a Gofal Powys - Grŵp Colegau NPTC (nptcgroup.ac.uk)

Yn ogystal mae gan Academi Iechyd a Gofal Powys gyfleoedd ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd a fyddai’n gweithio o wardiau cleifion mewnol yn ysbytai’r sir. I ganfod mwy, neu i holi mwy am yr Academi, cysylltwch â: Powys.OD@wales.nhs.uk

 

Rhannu:
Cyswllt: