Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19

Mae'r COVID-19 wedi achosi newidiadau mawr I’n bywydau bob dydd. Mae wedi ein hatal rhag mynd i'r ysgol neu'r gwaith, mae wedi ein hatal rhag treulio amser gyda ffrindiau a theulu, ac mae wedi achosi poen a galar wrth i anwyliaid fynd yn ddifrifol wael neu farw o'r feirws. Mae hefyd wedi cael effaith ar sut y mae gwasanaethau iechyd yn cael ei ddarparu i gleifion. Mae gwasanaethau iechyd yn golygu gwasanaethau fel:

  • ysbytai;
  • meddygon, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr;
  • nyrsys sy'n rhoi gofal a chymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain
  • nyrsys ysgol;
  • gwasanaethau iechyd meddwl; a
  • canolfannau iechyd a chlinigau.


Bu llawer o gleifion oedd â’r Coronafeirws mewn ysbytai ac, o ganlyniad, nid yw rhai gwasanaethau iechyd wedi medru cael eu darparu, neu maent wedi'u darparu mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, gweld meddyg ar Zoom gan ddefnyddio eich ipad. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi'i gwneud yn glir, os oes angen triniaeth frys ar bobl ar gyfer cyflwr gofal iechyd neu am nad ydynt yn teimlo'n dda, y dylent allu cael y driniaeth honno. O fewn Llywodraeth Cymru, mae grŵp o bobl yn cynghori'r GIG ar sut y gellir cynnig rhai gwasanaethau o'r enw "Gwasanaethau Hanfodol" hyd yn oed yn ystod y pandemig.

Mae gennym ddiddordeb ym mha brofiad y mae plant a phobl ifanc wedi'i gael wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020.

Rydyn ni yn gofyn nifer o gwestiynau sy'n ceisio darganfod a oedd y profiad hwnnw'n dda neu'n ddrwg neu rywle yn y canol. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw ac mae gennym ddiddordeb go iawn yn eich atebion.

Bydd eich atebion yn ein helpu i ddarganfod a yw plant a phobl ifanc wedi gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod hwn.

Nid oes atebion cywir nac anghywir. Os hoffech ddweud mwy wrthym, defnyddiwch y blychau sylwadau.

Diolch.


Mynediad at Wasanaethau Iechyd gan Blant a Phobl Ifanc yn ystod pandemig Covid-19 (office.com)