Rydym yn falch iawn o fod yn brechu pobl yn ein trydydd Canolfan Brechu Torfol heddiw.
Fodd bynnag, cofiwch fod brechu trwy apwyntiad yn unig.
Yn anffodus mae nifer o bobl wedi bod yn mynychu'r canolfannau brechu heb apwyntiad.
Rydym yn archebu pobl i mewn i gael eu brechu cyn gynted â phosibl a bydd pawb dros 80 oed wedi cael gwahoddiad i gael eu brechu erbyn diwedd yr wythnos nesaf.
Yn y cyfamser, PEIDIWCH â mynychu canolfan frechu oni bai bod gennych apwyntiad.
Gofynnwn hefyd i ddod i'ch apwyntiad brechlyn ar eich amser penodedig.
Mae rhai pobl yn cyrraedd yn gynnar, gan feddwl y gallai fod o gymorth. Fodd bynnag, rydym wedi cynllunio llif pobl trwy ein canolfannau brechu yn ofalus ac rydym wir angen i chi gyrraedd mewn pryd, nid yn gynnar, nid yn hwyr.
Diolch am ein helpu ni i'ch helpu chi.
Gyda'n gilydd gallwn gadw Powys yn Ddiogel.
Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 yn Powys ar gael o'n tudalennau brechu COVID-19 .