Mae cymorth iechyd meddwl digidol yn tyfu - ond felly hefyd y mythau a'r camsyniadau o’i amgylch. Yng Ngwasanaeth CBT ar-lein GIG Cymru, roedden ni eisiau rhannu’r ffeithiau. Dyma rai mythau cyffredin am apiau iechyd meddwl – a pham nad ydyn nhw'n berthnasol i SilverCloud.
MYTH: "Dim ond sgwrsbot ydyw - byddaf ar fy mhen fy hun."
CHWALU: Mae pob defnyddiwr SilverCloud Cymru yn cael cefnogwr dynol go iawn, wedi'i hyfforddi gan y GIG, sy'n gwirio gyda chi, yn rhoi adborth, ac yn helpu i'ch tywys trwy'r rhaglen.
MYTH: “Bydd rhaid i mi dalu – mae bob tro angen tanysgrifiad ar y pethau hyn.”
CHWALU: Mae SilverCloud 100% am ddim i unrhyw un 16+ oed sy'n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddygfa yng Nghymru. Nid oes unrhyw ffioedd cudd, dim byd i’w prynu yn yr ap, dim 'mis cyntaf am ddim'. Gallwch adael eich cerdyn debyd yn eich waled – rydym yn addo na fydd ei angen arnoch. Byth.
MYTH: "Nid yw cystal â gweld rhywun wyneb yn wyneb."
CHWALU: Nid yw SilverCloud wedi'i gynllunio i ddisodli therapi wyneb yn wyneb, ond mae'n opsiwn gwych ar gyfer cefnogaeth gynnar a hunanreolaeth. Mae wedi'i seilio ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), yr un dull a ddefnyddir yn aml gyda therapïau siarad wyneb yn wyneb.
MYTH: “Dydy therapïau ar-lein ddim yn gweithio.”
CHWALU: I lawer o bobl, dangoswyd bod CBT ar-lein yr un mor effeithiol â chefnogaeth wyneb yn wyneb. Ar ben hynny, mae SilverCloud wedi'i gefnogi gan dros 20 mlynedd o ymchwil, sy'n golygu ei fod wedi'i brofi'n glinigol i helpu gyda phroblemau fel straen, gorbryder a hwyliau isel. Mae dros filiwn o bobl ledled y byd yn ei ddefnyddio, mae’n cael ei gomisiynu gan adrannau'r GIG ledled y DU ac mae'n dod â stamp cymeradwyaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.
MYTH: "Dydw i ddim yn dda gyda chyfrifiaduron, na fydda i'n gallu eu defnyddio."
CHWALU: Os gallwch ddefnyddio e-bost neu bori'r rhyngrwyd, gallwch ddefnyddio SilverCloud. Os nad ydych chi'n hyderus ar-lein, mae hyfforddiant am ddim ar gael trwy Gymunedau Digidol Cymru, neu gallwch e-bostio ni yn Silver.Cloud@wales.nhs.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch rhoi ar y trywydd cywir.
MYTH: "Does gen i ddim amser i gael cymorth iechyd meddwl. Rydw i'n rhy brysur.”
CHWALU: Mae SilverCloud yn gyfleus ac yn hyblyg. Gallwch chi weithio trwyddi yn eich amser eich hun - cyn gwaith, ar ôl mynd â’r plant i’r ysgol, neu hyd yn oed yn ystod eich egwyl ginio. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn treulio dim ond 15–20 munud ychydig o weithiau'r wythnos arni. Does dim hyd yn oed rhaid newid o’ch pyjamas!
MYTH: “Ni fydd fy nata cael ei gadw’n breifat.”
CHWALU: Mae SilverCloud Cymru yn wasanaeth a benodir gan y GIG, ac mae eich gwybodaeth yn cael ei thrin gyda'r un safonau uchel o gyfrinachedd ag y byddech chi'n eu disgwyl gan eich meddyg teulu neu unrhyw ofal GIG arall. Mae'n blatfform diogel, ac ni chaiff eich data ei rannu heb eich cydsyniad.
MYTH: “Bydd angen atgyfeiriad arnaf gan fy meddyg teulu.”
CHWALU: Does dim angen gweld meddyg. Dim apwyntiadau. Dim ystafelloedd aros. Dim sgyrsiau anodd. Gallwch gofrestru ar-lein mewn dim ond ychydig o gliciau.
MYTH: "Mae rhestr aros enfawr, mwy na thebyg."
CHWALU: Does dim rhestr aros ar gyfer SilverCloud. Gallwch gael y cymorth sydd ei angen arnoch a dechrau eich taith i deimlo'n well heddiw. Peidiwch ag aros nes bod pethau'n teimlo'n llethol, oherwydd efallai y bydd angen gwasanaeth gyda rhestr aros arnoch bryd hynny. Dechreuwch yn gynnar cyn i bethau fynd allan o reolaeth.
Mae SilverCloud® Cymru yn darparu ystod o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol o straen, gorbryder, iselder a mwy.
Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar-lein
Cyhoeddwyd: 29/08/2025