Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan ein Is-Gadeirydd ar 80 mlynedd ers D-Day

Gardd

Neges gan ein His-gadeirydd, Kirsty Williams, Hyrwyddwr y Bwrdd Iechyd dros y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr.

Heddiw, 80 mlynedd ers D-Day, rydym yn ymuno â'r genedl i gofio ac anrhydeddu'r rhai a gafodd eu heffeithio gan wrthdaro, ac yn dangos cefnogaeth i gyn-filwyr, milwyr sy’n gwasanaethu a'u teuluoedd. Rydym yn cofio ffrindiau, aelodau o'r teulu a’r rhai sydd wedi dangos dewrder, undod ac aberth yn ystod gwasanaeth gweithredol o'r Rhyfel Byd Cyntaf hyd at heddiw. Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae’ bwysicach nag erioed i gofio. O deithiau cadw heddwch i gefnogi ymateb y DU i Covid-19, mae ein Lluoedd Arfog, ein milwyr wrth gefn, a'u teuluoedd yn cyflawni tasgau anhygoel bob dydd ac am hynny rydym yn diolch i chi i gyd.

Mae gan lawer o aelodau staff a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu gysylltiad cryf a balch â'r Lluoedd Arfog. Mae cydnabod a gwerthfawrogi hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith yn y Bwrdd Iechyd, yn enwedig wrth weithredu fel eiriolwyr dros gyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, rhai sy’n gwasanaethu yn rheolaidd ac wrth gefn, a'u teuluoedd. Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i egwyddorion a Dyletswydd Gyfreithiol Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac rydym yn falch o ddweud ein bod yn sefydliad sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog ac yn cefnogi'r gymuned fel cyflogwr.

Mae'r ardd 'Llonyddwch' yn Ysbyty Bronllys wedi'i chynllunio gan Gyn-filwyr fel hafan o heddwch wrth galon lle o iachâd. Mae plac wedi'i ddylunio a'i godi'n ddiweddar i gydnabod hyn. Mae'r ardd i bawb – cleifion, staff ac ymwelwyr - ardal ar gyfer amser tawel i fyfyrio, cofio a phopeth yr ydym yn ddiolchgar amdano.

 

Rhyddhawyd: 6/6/2024

Rhannu:
Cyswllt: