Neidio i'r prif gynnwy

Neges Nadolig gan Vivienne Harpwood a Carol Shillabeer

Diolch, pawb, am eich cefnogaeth yn ystod 2020 a'ch ymdrechion parhaus i Ddiogelu Powys.

Heb os, hon oedd y flwyddyn fwyaf heriol y mae'r GIG erioed wedi'i phrofi. Fodd bynnag, mewn ymateb i'r heriau hyn, mae pawb wedi dangos yn union pam y dylem i gyd fod mor falch o Bowys.

Mae pobl a chymunedau lleol, sefydliadau gwirfoddol, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus - a'n cydweithwyr ein hunain yn y GIG - wedi ymateb gyda'r fath greadigrwydd, caredigrwydd a chariad.

Ar ran pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys hoffem ddymuno iechyd, gobaith a hapusrwydd i chi ar gyfer tymor yr ŵyl a'r flwyddyn i ddod.

Yr Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd
Carol Shillabeer, Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Rhannu:
Cyswllt: