Neidio i'r prif gynnwy

"Newid ar gyfer y Dyfodol" ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ymgymryd â chyfnod o ymgysylltu ar wasanaethau iechyd ac ysbytai yn ardal Bae Abertawe.

Byddai'r cynigion hyn yn effeithio ar y ffordd y mae rhai o drigolion De Orllewin Powys (Ystradgynlais a Tawe Uchaf) yn defnyddio gwasanaethau ysbyty yn ardal Bae Abertawe (e.e. Treforys, Singleton, Castell-nedd Port Talbot).

Mae ymgysylltu'n digwydd rhwng 26 Gorffennaf 2021 a 1 Hydref 2021.

Dysgwch fwy a dweud eich dweud ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

Byddai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Iechyd Cymuned Powys hefyd yn ddiolchgar o glywed eich barn, er mwyn cyfrannu at ein hymatebion ein hunain i'r ymgysylltu:

  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – drwy e-bost: powys.engagement@wales.nhs.uk neu'n ysgrifenedig at y Tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu, Powys LD3 0LY
  • Cyngor Iechyd Cymuned Powys – drwy e-bost: enquiries.powyschc@waleschc.org.uk neu'n ysgrifenedig at Gyngor Iechyd Cymuned Powys, Swyddfa Aberhonddu, Llawr 1af Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, Powys LD3 7HR