Yn aml, gall blwyddyn newydd olygu rhai addunedau mawr– a’r mwyaf ydyn nhw, yr anoddaf yw cadw atynt. O ran alcohol, gall newidiadau bach wneud y gwahaniaeth mwyaf yn hirdymor.
Wrth osod targedau o amgylch defnyddio alcohol, cofiwch eu gwneud yn Nodau CAMPUS – 'Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol ac Amserol'. Gall hyn helpu lleihau teimladau llethol neu rwystredig.
“Nid oes rhaid i newid ddigwydd i gyd ar unwaith – gall newidiadau graddol feithrin gwydnwch a hyder, gan roi’r llwyddiant hirdymor hwnnw i chi yn y pen draw,” meddai Neville Brooks, Comisiynydd Camddefnyddio Sylweddau Powys.
“Dechreuwch drwy ddeall eich arferion, gan gofio y gall hyd yn oed addasiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd a’ch lles dros amser.”
Traciwch eich yfed am wythnos trwy gadw dyddiadur yfed. Gwybod pryd a pham rydych chi'n yfed yw'r cam cyntaf tuag at newid.
Yn lle “Wna i fyth yfed eto,” rhowch gynnig ar “Byddaf yn lleihau faint rwy’n yfed dros gyfnod o amser.”
Mae nodau fel “yfed llai” yn amwys. Byddwch yn fwy penodol gyda'ch newidiadau: “Byddaf yn cyfyngu fy hun i ddwy ddiod pan fyddaf yn yfed.”
Cymerwch ychydig o amser i ystyried beth sy'n gwneud i chi eisiau cael diod. Mae pawb yn wahanol, ond mae straen a digwyddiadau cymdeithasol yn sbardunau cyffredin i lawer. Pan fyddwch chi'n gwybod beth yw eich rhai chi, paratowch rai dewisiadau eraill – fel mynd am dro, cwrdd â ffrind, neu deimlo'n gyfforddus yn prynu diod ddi-alcohol.
Mae pob cam yn cyfrif. Cydnabyddwch eich buddugoliaethau, ni waeth pa mor fach ydynt.
Mae ein rhaglen 'Gofod rhag Alcohol' yn defnyddio technegau profedig o Therapi Gwella Cymhelliant (MET) a Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i'ch helpu chi ddeall eich arferion yfed a gwneud newidiadau cadarnhaol ar eich cyflymder eich hun.
Mae'n rhad ac am ddim gyda GIG Cymru, yn gyfrinachol, ac ar gael ar-lein - felly gallwch chi ddechrau heddiw heb weld meddyg teulu.
I hunanatgyfeirio, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Am ragor o gymorth, ffoniwch linell gymorth cyffuriau ac alcohol genedlaethol GIG Cymru, Dan 24/7, ar 0808 808 2234, neu e-bostiwch dan@helpline.wales.
Cyhoeddwyd: 12/01/2026