Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am newidiadau dros dro brys sy'n cael eu gwneud i wasanaethau strôc ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful) o'r wythnos sy'n dechrau’r 6 Ionawr 2025.
Pan fyddwch chi'n profi symptomau strôc, efallai y bydd angen profion a thriniaeth arbenigol arnoch i roi'r cyfle gorau i chi adfer. Cofiwch y cam N.E.S.A. a ffoniwch 999 ar gyfer gofal strôc brys.
Fel arfer, y lle gorau os ydych chi'n profi symptomau strôc yw ysbyty mawr gyda'r ystod lawn o arbenigwyr ac offer. Gallai hyn gynnwys sganiau ymennydd arbenigol, a darparu meddyginiaeth "chwalu clotiau” i ddiddymu clotiau gwaed ac adfer llif gwaed i'r ymennydd.
Gan fod poblogaeth Powys ar led, rydym yn derbyn ein gofal strôc ysbyty brys ac arbenigol mewn ysbytai cyfagos y tu allan i'r sir.
Un o'r ysbytai hyn yw Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful sy'n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM). Ar hyn o bryd dyma'r prif ysbyty strôc arbenigol ar gyfer rhai cymunedau yn Ne Powys. Oherwydd materion brys sy'n wynebu BIP CTM maent yn gwneud rhai newidiadau dros dro brys i'w gwasanaethau strôc ysbyty arbenigol. O'r wythnos sy'n dechrau ar 6 Ionawr, bydd staff a gwasanaethau arbenigol ar gyfer y rhai sydd angen triniaeth frys a gofal am strôc, yn cael eu lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn hytrach nag yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.
Yn dibynnu ar ble rydych yn byw ym Mhowys, efallai mai Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful yw eich prif ysbyty strôc arbenigol ar hyn o bryd neu gall fod yn Ysbyty Treforys (Abertawe), Ysbyty Glangwili (Caerfyrddin), Ysbyty Bronglais (Aberystwyth), Ysbyty Maelor (Wrecsam), Ysbyty Brenhinol y Dywysoges (Telford), Ysbyty Sirol (Henffordd), neu Ysbyty'r Grange (Cwmbrân). Nid yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu heffeithio ac maent yn parhau i gynnig gwasanaethau strôc arbenigol mewn ysbytai. Nid yw rôl allweddol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ychwaith yn cael ei heffeithio: pan fyddwch chi'n profi symptomau strôc, byddant yn mynd â chi i'r lle gorau i gael mynediad at ofal strôc.
Am fwy o wybodaeth ar beth i'w wneud os ydych chi neu anwylyn yn profi symptomau strôc, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Gallwch gofio'r prif symptomau strôc gyda'r gair NESA: Nam ar yr wyneb - Estyn - Siarad - Amser
Am fwy o wybodaeth ar beth i'w wneud os ydych chi neu anwylyn yn profi symptomau strôc, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Peidiwch oedi. Gweithredwch.
Mae profi strôc yn argyfwng meddygol difrifol sydd angen asesiad ar unwaith a thriniaeth frys. Mae dechrau triniaeth yn gyflym yn allweddol i sicrhau canlyniadau strôc gwell.
Os ydych yn amau eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.
Os ydych yn amau eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc a'ch bod yn mynd i'ch adran frys leol (yn hytrach na chyrraedd mewn ambiwlans), bydd pob adran frys yn gallu eich asesu a darparu triniaeth feddygol frys (lle bo angen), cyn eich trosglwyddo i uned strôc arbenigol.
Sylwch nad yw Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys yn darparu triniaeth frys ar gyfer salwch nac anafiadau sy'n peryglu bywyd nac aelodau’r corff. Maent yn darparu gofal a thriniaeth ar gyfer mân anafiadau cyffredin.
Os ydych chi, neu anwylyn, yn profi symptomau strôc, dylech bob amser ffonio 999 am ambiwlans yn y lle cyntaf.
Os byddwch yn mynychu Adran Achosion Brys ysbyty (yn hytrach na chyrraedd mewn ambiwlans) byddant yn gallu eich asesu a darparu triniaeth feddygol frys (pan fo angen) i sefydlogi eich strôc. Efallai y byddant yn eich trosglwyddo i ysbyty strôc arbenigol i gael asesiad neu driniaeth bellach.
Mae BIP CTM eisiau darparu gwasanaeth diogel a chynaliadwy a all barhau i achub bywydau a lleihau effeithiau dinistriol strôc i gymaint o gleifion â phosibl.
Ddiwedd mis Hydref 2024, oherwydd bod angen gwaith atgyweirio toi brys yn ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd angen i BIP CTM wneud newidiadau brys i wasanaethau strôc a symud gwasanaethau strôc brys o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae'r cam pellach hwn yn cael ei wneud wrth i'r bwrdd iechyd reoli prinder difrifol o staff meddygol arbenigol gyda'r hyfforddiant, y sgiliau a'r profiad i ofalu am gleifion sy'n profi strôc yn ddiogel.
Trwy symud dros dro i un uned strôc acíwt maent yn anelu at wneud y defnydd gorau o'u gweithlu strôc medrus ac arbenigol iawn, a sicrhau gwasanaeth strôc diogel ac effeithiol.
Bydd hyn yn eu helpu:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan BIP CTM.
Mae BIP CTM wedi dweud mai newidiadau dros dro yw'r rhain a fydd ar waith wrth iddynt sefydlogi'r gwasanaeth. Ochr yn ochr â hyn, maen nhw’n bwriadu gweithio gyda chleifion a chymunedau - gan gynnwys yn Ne Powys - i ddatblygu cynllun clir ar gyfer dyfodol gwasanaethau strôc diogel a chynaliadwy. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth pan fydd manylion ar gael.
Na fydd.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda BIP CTM i gefnogi cleifion i ddychwelyd adref, neu'n agosach at adref, gan gynnwys ein Hunedau Adsefydlu, ar gyfer yr adferiad a'r adsefydlu parhaus yn dilyn strôc.