Gyda'r cynnydd mewn heintiau COVID yn y gymuned, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi penderfynu argymell yn gryf y dylid gwisgo masg ym mhob man cyhoeddus, gan gynnwys coridorau, er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.
Dywedodd Marie Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Rydym yn gwybod ei bod yn bwysig i chi ymweld â’ch anwyliaid. Ein ple yw eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd diogel i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag haint.
“Ein polisi yw ei bod yn ofynnol i bob ymwelydd â’n hysbytai a’n clinigau wisgo gorchuddion wyneb, parhau i olchi eu dwylo’n aml, a pharchu pellter cymdeithasol.
“Wrth i’r don bresennol o haint COVID-19 barhau, gellir diwygio neu ganslo ymweliadau ar unrhyw adeg er mwyn cynnal diogelwch.”
Mae’r polisi lleol a ddeddfwyd gan y bwrdd iechyd yn ymdrin â’r pwyntiau allweddol canlynol i ymwelwyr:
Peidiwch â mynd i ysbytai neu safleoedd clinigol os ydych chi'n teimlo'n sâl, os oes gennych chi symptomau sy'n gysylltiedig ag unrhyw haint anadlol fel COVID-19 a'r ffliw, neu os ydych chi'n profi symptomau tebyg i annwyd, dolur rhydd a chwydu, twymyn neu os oes gennych chi frech ac mewn cyfnod o unigedd.
Byddwch yn ymwybodol y gall rheolau ymweld newid ar fyr rybudd oherwydd cyfraddau trosglwyddo COVID-19, niferoedd derbyn COVID-19 i’r ysbyty ac unrhyw achosion a allai godi yn yr ysbyty. Gall y sefyllfa newid yn gyflym felly mae'n bwysig bod aelodau'r cyhoedd yn gwirio gyda'r ward / adran cyn ymweld. Mae’r camau hyn ar waith i atal heintiau ac i wneud ymweliadau mor ddiogel â phosibl.
Bydd pob ymweliad trwy apwyntiad yn unig a bydd angen i bob ymwelydd gael asesiad risg unigol cyn ac ar ôl cyrraedd ymweliad y cytunwyd arno ar gyfer trefniadau ymweld eithriadol a chyffredinol, er mwyn cadw cleifion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel.
Gallwch ddarllen canllawiau ymweld manwl yma.
Cyhoeddwyd: 15/07/2022