Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i oriau agor Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog ac Ysbyty Coffa Llandrindod

Meddyg gwrywaidd yn bandio llaw

O’r 18 Tachwedd 2024, bydd rhai newidiadau i oriau agor Unedau Mân Anafiadau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog ac Ysbyty Coffa Llandrindod.

Cynhaliwyd cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd yn ddiweddar i geisio adborth ar newidiadau dros dro arfaethedig i wasanaethau ym Mhowys fel rhan o sgwrs barhaus gyda thrigolion i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mewn cyfarfod cyhoeddus o'r Bwrdd ar y 10 Hydref, cymeradwyodd yr aelodau gynigion ar gyfer newidiadau dros dro i rai gwasanaethau mân anafiadau yn y sir. 

Yr oriau agor diwygiedig, a fydd yn dod i rym o 18 Tachwedd, fydd:

Aberhonddu

08:00 – 20:00, 7 diwrnod yr wythnos

01874 615800

Llandrindod

08:00 – 20:00, 7 diwrnod yr wythnos

01597 828735

Y Trallwng

08:00 – 20:00, 7 diwrnod yr wythnos

(Dim newid)

01938 558919/558931

Ystradgynlais

Dydd Llun–Dydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc

(Dim newid)

01639 844777

 

Gallwn drin oedolion a phlant dros ddwy oed sydd ag ystod eang o anafiadau yn ein Hunedau Mân Anafiadau. Gallwch ymweld ag un o’n hunedau ar gyfer:

  • Esgyrn wedi torri (torasgwrn)
  • Datgymaliadau, ysigiadau a straeniau
  • Clwyfau a mân losgiad
  • Pigiadau pryfed syml heb unrhyw gymhlethdodau
  • Brathiadau gan bryfed, anifeiliaid a phobl
  • Corffynnau estron yn y llygaid, y clustiau neu’r trwyn
  • Anafiadau i'r pen neu'r wyneb (os nad oes colled neu newid yn lefel ymwybyddiaeth)
  • Anafiadau i’r llygaid neu’r clustiau heb eu treiddio
  • Mân anafiadau

Y tu allan i oriau agor ein Hunedau Mân Anafiadau, gallwch gysylltu â gwasanaeth GIG 111 Cymru 24 awr y dydd i gael gwybodaeth a chyngor iechyd, gan gynnwys mân anafiadau.

Os ydych chi'n profi symptomau sy'n peryglu bywyd, dylech ffonio 999 ar unwaith neu ymweld â'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf.

Byddwn bob amser yn derbyn pobl sy’n cerdded i mewn yn UMA Powys, er y gall fod yn ddefnyddiol ffonio yn gyntaf er mwyn i ni allu rhoi cyngor ar unwaith i chi dros y ffôn, trefnu i apwyntiad i chi neu hyd yn oed eich cynghori am wasanaeth arall. Defnyddiwch y rhifau ffôn uchod i gysylltu ag un o'n hunedau.

Dywedodd Kate Wright, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 

"Bydd y newidiadau dros dro hyn yn caniatáu i’n Hunedau Mân Anafiadau ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy. 

"Yn ystod y cyfnod ymgysylltu clywsom lawer o gamddealltwriaeth am rôl Unedau Mân Anafiadau. Ni allwn bwysleisio’n ddigon cryf bod yr unedau hyn ar gyfer trin mân anafiadau yn unig. Nid ydynt ar gyfer anafiadau sy’n peryglu bywyd neu aelodau’r corff nac ar gyfer salwch difrifol. 

“Mewn argyfwng, dylai pobl ffonio 999 neu fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys. Gall ymweld ag UMA gyda chyflwr meddygol brys oedi mynediad at ofal sy'n achub bywydau." 

Parhewch i wirio ar ein gwefan am unrhyw ddiweddariadau sy'n ymwneud ag oriau agor yr Uned Mân Anafiadau.

 

Rhyddhawyd: 08/11/2024