Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'n gwasanaethau ddydd Llun 19 Medi

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf am 4.30pm ar 16 Medi 2022

Bydd dydd Llun 19 Medi 2022, dyddiad Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, yn ŵyl y banc cenedlaethol.

Bydd hyn yn galluogi unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i dalu teyrnged i’w Mawrhydi a dathlu ei theyrnasiad, wrth nodi diwrnod olaf y cyfnod o alaru cenedlaethol.

Mae hyn yn golygu y byddwn yn gweithredu gwasanaeth Gŵyl y Banc ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

  • Apwyntiadau a Llawdriniaethau a Archebwyd: Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â chi os oes angen aildrefnu eich apwyntiad ar ddydd Llun 19 Medi 2022.
  • Brechiad COVID: Bydd ein Clinigau Brechu COVID yn Ysbyty Bronllys, Llandrindod a Chanolfan Ddydd Newtown Park Street AR AGOR ar ddydd Llun 19 Medi 2022. Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad Brechu COVID ddydd Llun 19 Medi a hoffech newid eich apwyntiad, defnyddiwch y manylion yn eich llythyr trefnu apwntiad gysylltu â'n canolfan trefnu apwyntiadau.
  • Gofal Brys: Bydd ein Hunedau Mân Anafiadau yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Trallwng ar agor fel arfer ar ddydd Llun 19 Medi 2022. Mae Uned Mân Anafiadau Ystradgynlais ar gau ar Wyliau’r Banc. Mae cyngor gofal brys hefyd ar gael ar 111.wales.nhs.uk neu drwy ffonio 111. Bydd Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) a gwasanaethau 999 yn gweithredu fel arfer.
  • Gwasanaethau Gofal Sylfaenol:
    • Bydd Practisau Meddygon Teulu a Practisau Deintyddol y GIG ar gael ar ddydd Llun 19 Medi 2022. Mae meddyg teulu y tu allan i oriau a gwasanaethau deintyddol brys ar gael drwy ffonio 111. Sicrhewch eich bod wedi cynllunio ymlaen llaw ar gyfer unrhyw bresgripsiynau rheolaidd y bydd eu hangen arnoch dros benwythnos Gŵyl y Banc.
    • Stociwch ar i fyny meddyginiaethau ddydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd llai o wasanaeth fferyllfa ar gael ddydd Llun: Primrose Pharmacy Talgarth 1400-1500, Boots Llandrindod 1400-1500; Fferylliaeth Llanidloes 1030-1130; Richards Ystradgynlais 1130-1230

  • Apwyntiadau mewn ysbytai y tu allan i Bowys: Gwiriwch gyda'ch darparwr gofal iechyd ynghylch apwyntiadau mewn ysbytai y tu allan i Bowyss.

Bydd gwasanaethau yn gweithredu fel arfer o ddydd Mawrth 20 Medi 2022.

Mae rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth yn ystod cyfnod y Galar Cenedlaethol ar gael ar ein gwefan.

Rhannu:
Cyswllt: