Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Papurau'r Bwrdd ar gyfer 18 a 19 Chwefror ar gael nawr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau'r GIG yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ysbyty a ddefnyddir gan rai trigolion Powys.

Yn ddiweddar, ymgynghorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â'r gymuned ar ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol, a oedd yn cynnwys opsiynau ar gyfer newid mewn naw maes clinigol: gofal critigol, dermatoleg, llawdriniaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, strôc, radioleg ac wroleg


Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal cyfarfod bwrdd eithriadol ar 18 a 19 Chwefror 2026 i ystyried y model i’r dyfodol ar gyfer naw gwasanaeth sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

Bydd cyfarfod Arbennig y Bwrdd yn cael ei ddarlledu ar-lein. Mae papurau'r Bwrdd ar gael nawr a bydd dolen i'r cyfarfod ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yn fuan: Eich bwrdd iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn dolen newydd)