Nid yw cwympo yn rhan hanfodol o heneiddio!
Gallwn gwympo ar unrhyw oedran ond wrth i ni fynd yn hŷn, rydym yn fwy tebygol o gael anaf yn dilyn cwymp.
Gallwch wneud ychydig o bethau i helpu i leihau eich risg.
Gall gwisgo esgidiau a sliperi sy'n ffitio'n dda, sydd â chefn, gafael da gyda chareiau a rhai nad ydynt yn llithro oddi ar y droed helpu.
Argymhellir hefyd eich bod bob amser yn gwisgo esgidiau neu sliperi, a pheidiwch byth â cherdded yn y ty yn droednoeth na mewn sanau, neu deits. Nid ydym am i chi lithro i lawr y grisiau yn eich sanau!
Edrychwch ar ol eich traed a chwiliwch am unrhyw ardaloedd sy’n rhoi anghysur ac am unrhyw newidiadau yn lliw neu gyflwr eich traed.
Gyda'r swyddfa dywydd yn cyhoeddi rhybudd melyn am eira ar draws ein hardal o ganol dydd ar ddydd Sadwrn tan fore Llun, byddwch yn arbennig o ofalus. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a darllen rhagor o gyngor ar gadw’n ddiogel yn yr eira oddi ar wefan y Met Office