Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs dementia ym Mhowys yn cael ei hanrhydeddu gan Ei Fawrhydi'r Brenin Charles

Mae'r Nyrs Arweiniol dros Ddementia ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig mewn seremoni yn Y Drenewydd.

Cyflwynwyd yr anrhydedd i Heather Wenban – a gyhoeddwyd yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi’r Brenin Charles ym mis Mehefin 2024 – gan Arglwydd Raglaw’r Sir Mrs Tia Jones mewn seremoni yn Eglwys Hope a fynychwyd gan ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

Bu’n gweithio yn y GIG ers 2011, yn gyntaf fel nyrs iechyd meddwl ac am y 6 blynedd diwethaf yn ei rôl bresennol; cafodd Heather ei henwebu am yr anrhydedd gan gydweithwyr yn y bwrdd iechyd a oedd yn cydnabod ei hysgogiad, tosturi ac ymdrech i wella gofal dementia ym Mhowys a ledled Cymru.  

Mae Heather wedi arwain y gwaith o weithredu Safonau Dementia Cymru Gyfan ym Mhowys. Mae wedi sicrhau cyfraddau diagnosis gwell i bobl â dementia, mabwysiadau Siarter Ysbytai newydd, ac ymgysylltu ehangach gyda chymunedau i gefnogi dyfodol sy’n deall dementia. Mae'n sicrhau bod gwella taith unigolyn cyn ac ar ôl diagnosis yn cael ei lywio'n llawn gan bobl sydd â phrofiad byw a'u teuluoedd.

Meddai hi: "Rwyf wedi derbyn y fedal Ymerodraeth Brydeinig hon, ac rwyf wrth fy modd. Rwy'n teimlo mor freintiedig i dderbyn hon, oherwydd gallaf ei defnyddio i hyrwyddo a chodi proffil gofal dementia ym Mhowys ac yng Nghymru."

"Mae gennym gynllun pedwar pwynt yr ydym yn gweithio iddo ym Mhowys i godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma oherwydd mae mor bwysig bod pobl yn deall beth mae dementia yn ei olygu a sut y gallant ofyn am gyngor yn gynnar." Rydym yn awyddus iawn i wneud pobl yn ymwybodol o sut i fynd at eu meddyg teulu, ac, os oes angen, cael eu hatgyfeirio at ein timau Asesu Cof. Pan fydd pobl yn cael eu derbyn i'n hysbytai ym Mhowys, rydym am iddynt gael profiad da ac mae'r bwrdd iechyd yn gweithio i gyd-fynd â Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia i wella eu mynediad. Er mwyn cyflawni'r cynllun, mae angen i staff gael hyfforddiant priodol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau i fodloni anghenion gofal pobl. Mae'r camau hyn yn rhan o gynllun Powys i gyd-fynd â Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia Cymru Gyfan.

Diolchodd Heather hefyd i'w theulu, ffrindiau a chydweithwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.

Linzi Shone yw Pennaeth Proffesiynol Nyrsio y bwrdd iechyd: "Mae wedi bod yn bleser anhygoel gweithio gyda Heather am y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ers i mi fod yn Bennaeth Nyrsio. Mae ei brwdfrydedd dros ofal dementia, ei mewnbwn i’n cyfarfodydd siarter ysbytai, y ffordd y mae hi’n llwyddo i gadw ni gyd yn frwdfrydig yn anhygoel. Ni allaf feddwl am unrhyw un sy'n fwy teilwng o'r wobr hon, felly llongyfarchiadau  Heather.”

Chwaraeodd Heather ran allweddol wrth helpu'r Drenewydd i ddod yn Gymuned sy'n Deall Dementia, a gweithredu'r Cynllun Pili Pala ac Ymgyrch John* ym mhob ward ym Mhowys. Mae hi wedi cael effaith drawsnewidiol ar ofal dementia, gan ysbrydoli'r rhai o'i chwmpas i ddefnyddio eu sgiliau a'u creadigrwydd i oresgyn yr heriau penodol o ddarparu gofal yn y sir sydd â’r boblogaeth fwyaf ar led yng Nghymru a Lloegr.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cymorth dementia lleol o wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/ dementia/

Llun: Gwelir Heather Wenban (chwith) yn y seremoni yn y Drenewydd lle cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddi gan yr Arglwydd Raglaw Mrs Tia Jones (ail o'r chwith) a gŵr Heather, Paul a'i hwyres Edie. 

Gwyliwch fideo byr yn dathlu cyflwyniad Medal yr Ymerodraeth Brydeinig Heather Wenbam, gyda theyrngedau gan gydweithwyr Susanna Jermyn (Swyddog Cymorth i Fusnesau Nyrsio), Linzi Shone (Pennaeth Nyrsio Proffesiynol) a Louisa Kerr (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu).

 

 

Digwyddiad cyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Heather