Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs o Feifod wedi'i henwebu am wobr Nursing Times

Mae nyrs ym Mhowys wedi cael ei henwebu am wobr Nursing Times ar ôl lansio ap arloesol sy'n helpu plant ar draws Powys i oresgyn problemau'r bledren a'r coluddyn.

Mae Jennifer Walsh – Ymarferydd Nyrsio Uwch sy'n arbenigomewn camweithrediad y bledren a'r coluddyn mewn plant a phobl ifanc gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir ym mis Hydref.

Amlygwyd yr ap hefyd gan ymgyrch Helpu Ni Help Chi Llywodraeth Cymru fel enghraifft o drawsnewid digidol a fydd yn helpu'r GIG i wella o bandemig Covid-19.

Mae'r nyrs o Bont Robert yn gweithio gyda phlant ar draws y sir o fabanod newydd-anedig i blant 19 oed:

"Mae ymataliaeth bediatrig yn fater sy'n tyfu," meddai Jennifer. "Dyw pobl ddim yn sylweddoli ond rydyn ni'n edrych ar un o bob 12 plentyn sy'n dioddef gyda materion fel gwlychu, baeddu neu rwymedd. Wrth wraidd y rhan fwyaf o'r materion hyn mae deiet, diffyg ymarfer corff, cymeriant hylif gwael a ffobia toiledau."

Mae'r ap yn helpu cleifion a rhieni i gofnodi gwybodaeth a all helpu Jennifer ac aelodau eraill o'r tîm i wneud diagnosis:

"Gofynnwn i gleifion fesur eu diodydd ac yna eu wrin dros gyfnod o ddeuddydd. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall beth sy'n digwydd. Yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio dyddiadur papur ond maent yn aml yn mynd ar goll ac nid ydynt wedi'u cwblhau mewn amser real. Roedd y mesuriadau'n aml yn anghywir," meddai Jennifer.

"Mae angen i ni addysgu pobl hefyd ond yn aml does dim amser yn amgylchedd y clinig. Mae angen i rieni a chleifion adnabod eu symptomau a deall sut i hunanreoli," ychwanegodd." Mae hyn i gyd ar gael ar yr ap erbyn hyn a gall teuluoedd gysylltu ag eraill sydd yn yr un sefyllfa drwy fynediad i elusen ERIC sydd wedi'i hymgorffori yn yr ap."

Datblygwyd yr ap gyda chyllid o £20,000 gan Hac Iechyd Cymru – cydweithrediad Den-fath y Dreigiau rhwng Comisiwn Bevan, Hyb Gwyddorau Bywyd, MediWales, M-Sparc, yr HS a'r Hyb Menter.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu dwyn ynghyd â chwmnïau digidol, technegol a data i ddatrys heriau.

"Fe wnaethon ni adeiladu'r ap gyda chwmni o'r enw Aparito. Mae'n rhaid i chi fod yn glaf i gael yr ap gan ei fod yn cysylltu'n uniongyrchol â dangosfwrdd y gall clinigwyr ei ddefnyddio. Yr ydym bellach wedi cyflwyno cais am arian ychwanegol oherwydd ein bod am edrych ar yr effaith y mae'n ei chael ym Mhowys. Mae'n arbed amser y GIG ond mae hefyd yn rhoi data dibynadwy i ni," ychwanega Jennifer.

Meddai Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

 "Ar draws y Bwrdd Iechyd, rydym yn gweld cydweithwyr yn trawsnewid ac yn moderneiddio gwasanaethau drwy groesawu atebion digidol. Bydd yr ap hwn, y mae Jennifer wedi'i yrru ymlaen mewn gwirionedd, yn helpu teuluoedd ledled Powys a bydd hefyd yn ein helpu fel sefydliad i weithio'n gallach."

Os ydych chi'n poeni am unrhyw un o'r materion yn y stori hon, ewch i Elusen y Bledren Plant a'r Coluddyn www.eric.org.uk. Os ydych yn dal i bryderu, cysylltwch â'ch meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol a all ddarparu cymorth cychwynnol neu gyfeirio at y gwasanaeth ymataliaeth bediatrig.