Mae nyrs wedi rhannu sut y gwnaeth ap sydd ar gael am ddim gyda GIG Cymru ei hachub rhag cyfnod llym o iselder a gorbryder a wnaeth ei throi’n gwbl ynysig.
Trodd Maria Anderton, o Abertawe, at SilverCloud® Cymru am gymorth pan wnaeth iselder iddi deimlo fel ei bod eisiau 'diflannu'.
Mae'r platfform ar-lein – y gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiadur, tabled neu drwy ap ffôn clyfar – yn cynnig amrywiaeth o raglenni hunangymorth dan arweiniad yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol.
Dywedodd Maria ei bod wedi ei helpu gwneud synnwyr o'i meddyliau a'i theimladau, ei thynnu allan o gyfnod ynysig ac yn y pen draw ei galluogi i ddychwelyd i'r gwaith.
Dywedodd Maria: "Roedd yn achubiaeth. Fe wnes i brofi her iechyd meddwl a oedd wedi newid fy mywyd, ond roedd SilverCloud wedi gweithio i mi.”
Esboniodd Maria sut y dechreuodd ei phroblemau gyda phwl o insomnia.
"Doeddwn i ddim yn gallu cysgu, roeddwn i'n meddwl gormod a ddim yn gallu troi ffwrdd," meddai. “Yna roeddwn i’n hollol ynysig. Doeddwn i ddim yn gweld teulu na ffrindiau.”
“Roeddwn i'n orbryderus, yn ofnus, a doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio ar unrhyw beth. Yn y pen draw, roeddwn i'n cael trafferth codi o'r gwely yn y bore. Pe bawn i’n llwyddo codi o'r gwely, roeddwn i’n mynd yn syth i eistedd mewn cornel. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu darllen na gwylio'r teledu.
"Cefais fy llethu gan deimladau o ofn, bregusrwydd, tensiwn, gorbryder, methiant - daeth y cyfan ar unwaith fel tswnami. Doeddwn i ddim yn adnabod fy hun.”
Cafodd Maria, nyrs datblygu ymarfer, sydd â phrofiad o reoli gwasanaethau iechyd meddwl, ei chynghori gan lywydd gofal y GIG i roi cynnig ar SilverCloud®.
“Fe wnaethon nhw esbonio i mi ei fod ar gael yn y fan a'r lle. Doedd dim rhestrau aros felly gallwn ddechrau ei ddefnyddio ar unwaith," meddai.
Ar adeg pan oedd popeth yn teimlo mor anodd, roedd cael cyfeiriad gwefan y gallwn glicio arno a chael mynediad i'r gwasanaeth hwn yn wych.
"Roedd yn teimlo fel y ffit iawn i mi - erbyn hyn doeddwn i ddim yn gallu mynd allan, doeddwn i ddim eisiau siarad â neb na wynebu unrhyw un. Roedd SilverCloud yn teimlo fel rhywbeth roeddwn i wir yn gallu gwneud.”
Cofrestrodd Maria ar raglen 12 wythnos ar gyfer cymorth i reoli gorbryder ac iselder.
Mae'r cwrs yn cynnwys offer ac ymarferion ymarferol ochr yn ochr â chynnwys fideo a straeon bywyd go iawn eraill sydd wedi profi materion iechyd meddwl.
Gellir ei ddefnyddio 24/7 a'i gwblhau ar unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad rhyngrwyd.
"Roeddwn i'n gweld y dyddiadur ar y rhaglen yn arbennig o ddefnyddiol," meddai Maria.
"Roedd ysgrifennu'r holl feddyliau roeddwn i'n eu profi a chofnodi sut roedden nhw'n gwneud i mi deimlo yn agoriad llygad go iawn. Gwnaeth i mi sylweddoli fy mod i'n canolbwyntio gormod ar rai materion roedd heb eu datrys a oedd yn anodd iawn.
"Byddwn i'n ei wneud yn y gwely bob nos - daeth yn rhan o fy nhrefn i setlo fy hun, oherwydd roedd cwsg wedi bod yn arwydd cynnar doedd pethau ddim yn iawn.
“Mewn cyfnod eithaf byr o ddefnyddio Silver Cloud, dechreuais wneud pethau bach nad oeddwn wedi'u gwneud ers nifer o wythnosau a oedd yn welliant eithaf sylweddol.
“Dechreuais gael rhywfaint o strwythur a threfn i'm diwrnod, a oedd yn golygu bod yn rhaid i mi godi o'r gwely yn y bore, a byddwn i'n codi, ac yn gallu cynllunio rhywbeth i edrych ymlaen ato."
Mae cyfres o raglenni SilverCloud® ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn, heb angen gweld meddyg teulu.
Yn ogystal â chefnogaeth i oedolion, mae rhaglenni ar gyfer pobl ifanc a myfyrwyr, a rhieni a gofalwyr sy'n cefnogi plentyn neu berson ifanc gorbryderus.
Gellir lawrlwytho offer ac adnoddau, a dywedodd Maria ei bod yn aml yn dychwelyd atynt am hwb pan fydd amseroedd yn teimlo'n heriol.
"Os ydw i'n sydyn yn teimlo nad ydw i'n delio â phethau, rwy'n mynd yn ôl i SilverCloud ac yn mynd trwy'r broses eto," meddai.
"Pa feddyliau sy'n digwydd yn fy mhen? Beth ydw i'n gorfeddwl? Sut mae'r meddyliau hynny'n gwneud i mi deimlo? Ac yna beth sy'n digwydd o ran fy ymddygiad?”
Ychwanegodd Maria: "Os gall rhywun fel fi sydd â gwybodaeth am gefnogi eraill, brofi cyfnod mor sylweddol o salwch, yna gall unrhyw un ohonom – does neb yn imiwn.
"Profodd SilverCloud yn effeithiol iawn – llwyddodd dorri’r cylch."
Mae SilverCloud® Cymru ar gael i unrhyw un sy'n 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru, heb atgyfeiriad meddygon teulu.
I gofrestru, ewch i nhswales.silvercloudhealth.com/signup.
Cyhoeddwyd: 28/05/2025