Rydyn ni gyd wedi profi’r teimlad groglyd, diflas hynny ar ôl noson o gwsg gwael - mae popeth yn teimlo'n anoddach, ac mae’r pethau bach plagus yn gallu teimlo yn gallu teimlo’n enfawr.
Mae hynny oherwydd nad yw cwsg yn ymwneud ag ailwefru eich batris yn unig - mae'n hanfodol ar gyfer cadw'ch meddwl yn hapus, yn gytbwys, ac yn wydn.
Felly, i ddathlu Diwrnod Cwsg y Byd, gadewch i ni siarad am pam mae cael digon o gwsg yn un o'r pethau gorau, heb sôn am hawdd, y gallwch eu gwneud ar gyfer eich iechyd meddwl.
Gall cysgu’n well olygu llai o straen
Pan fyddwch chi'n gorffwys da, nid yw heriau bach bywyd yn teimlo fel trychinebau mawr. Mae cwsg yn helpu cadw straen dan reolaeth, sy'n golygu y gallwch fynd i'r afael â’r rhwystrau yn y ffordd gyda phen cliriach.
Mwy o gwsg i fod yn ffrind gwell
Pan fyddwch chi'n gorffwys yn dda, rydych chi'n fwy amyneddgar, yn fwy cysylltiedig, a gwirioneddol eisiau treulio amser gyda phobl - yn hytrach na chyfrif i lawr y munudau nes y gallwch chi fynd adref i fynd i gysgu. Ewch i'r gwely'n gynnar a dweud ffarwel wrth y teimlad blin.
Sicrhau hormonau cytbwys dros amser gwely
Gall osgoi gorffwys wneud eich lefelau o gemegau da - serotonin a dopamin - ollwng, ac achosi hormonau straen fel cortisol i sbeicio. Gall hyn eich gadael yn teimlo'n flinedig, ar yr ymyl, ac yn fwy llwglyd nag arfer. Mae cynnal trefn gwsg da yn helpu cadw cydbwysedd rhwng popeth.
Dweud hwyl fawr wrth y hwyliau ansefydlog
Gall diffyg cwsg effeithio ar allu eich ymennydd i reoleiddio emosiynau, gan eich gwneud yn fwy agored i dymor blin, rhwystredigaeth, a hyd yn oed tristwch, ac o bosibl gwneud brwydrau iechyd meddwl presennol hyd yn oed yn anoddach. Mae cael digon o gwsg yn helpu cadw eich hwyliau’n sefydlog.
Nid yw blaenoriaethu cwsg yn ddiog - mae’n weithred o hunanofal, yn rhoi hwb i bopeth o’ch hwyliau i’ch cymhelliant. Rhowch ganiatâd i’ch hun i ymlacio ar Ddiwrnod Cwsg y Byd eleni - bydd eich ymennydd (a’ch hwyliau) yn diolch i chi.
Os oes angen ychydig o help arnoch i gwympo i gysgu, gall rhaglen ‘Gofod i Gwsg’ SilverCloud helpu. Mae'n rhaglen hunangymorth ar-lein yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol. Gall unrhyw un 16+ oed hunanatgyfeirio. Gweithiwch drwy’r cwrs ar drywydd sy’n siwtio chi ar ddyfais symudol, yng nghysur eich cartref eich hun - i feddwl, teimlo a chysgu’n well.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth a chofrestrwch yma: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Cyhoeddwyd: 14/03/2025