Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer y gaeaf drwy gael eich brechiadau tymhorol

Wrth i ni agosáu at yr hydref a'r gaeaf, mae  Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn atgoffa pawb fod brechiadau yn gallu helpu i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag salwch cyffredin y gaeaf hwn a chefnogi'r GIG i ganolbwyntio ar y bobl sydd fwyaf angen y gofal.

Brechu yw un o'r ffyrdd gorau o atal lledaeniad y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV), a firysau anadlol cyffredin eraill, sydd fel arfer yn cynyddu yn ystod y misoedd oerach, ochr yn ochr ag atal uchafbwyntiau achlysurol o coronafeirws (COVID-19) drwy gydol y flwyddyn.

Mae brechiadau ffliw i blant eisoes yn cael eu cynnig mewn ysgolion a bydd y rhaglen frechu ffliw a COVID-19 i oedolion yn dechrau ar 1 Hydref 2024.

Am y tro cyntaf, mae menywod beichiog yn cael cynnig y brechlyn RSV i helpu amddiffyn babanod newydd-anedig rhag y feirws hwn, a all arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig yn y gaeaf. Mae'r brechlyn RSV hefyd yn cael ei gynnig i bobl wrth iddyn nhw droi'n 75 oed fel rhan o raglen gydol y flwyddyn a lansiwyd yn gynharach y mis hwn yng Nghymru.

Os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw, gallwch gael un drwy eich meddyg teulu neu fferyllfa leol.

Os ydych chi'n gymwys i gael brechlyn Covid-19 cewch eich gwahodd drwy lythyr i'ch lleoliad agosaf dros yr wythnosau nesaf.

Os ydych chi'n weithiwr gofal iechyd, yn weithiwr gofal cymdeithasol neu'n weithiwr cartref gofal ym Mhowys, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad eich Brechlyn COVID ar 01874 442510 neu e-bostiwch powys.covidvacc@wales.nhs.uk

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i weld pwy sy’n gymwys i gael brechlynnau ffliw a COVID-19 y GIG.

Rhannu:
Cyswllt: