15 Hydref 2026
Er nad wyddom eto sut aeaf fyddwn ni’n ei gael o ran tywydd eleni, byddwn yn barod i weithredu lle bynnag y bo angen. Yn ogystal â gofalu bod ein hafonydd yn glir rhag malurion a bod ein hasedau perygl llifogydd yn cael eu cynnal, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn barod i ddelio ag unrhyw fath o dywydd.
Gan fod 1 o bob 7 o gartrefi a busnesau yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, a chan fod yr argyfwng hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae hi’n bwysicach nag erioed fod pobl yn gwybod beth yw eu perygl llifogydd ac yn ei ddeall, ac yn cymryd tri cham syml cyn i’r glaw ddechrau syrthio.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd a gwell Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi rhybuddion cynnar i bobl mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd o afonydd ac o’r môr. Gall y rhybuddion hyn roi amser gwerthfawr i chi weithredu a lleihau’r perygl llifogydd i’ch anwyliaid, eich cartref, eich busnes a’ch eiddo.
Ar hyn o bryd, mae pobl yn gallu llunio'r gwasanaeth y maen nhw’n ei dderbyn trwy gysylltu â Floodline. Fodd bynnag, yn ddiweddarach eleni, byddwch yn gallu mynd ar-lein i reoli eich cyfrif eich hun, ac addasu eich dewisiadau rhybudd — gan ddewis pa negeseuon fyddwch yn eu derbyn, dewis a ydych am dderbyn rhybuddion yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Byddwch yn gallu dewis y dull cyfathrebu sydd orau gennych (e-bost, ffôn neu neges destun), a nodi lleoliadau eraill o ddiddordeb, megis busnes neu gartref aelod o'ch teulu, gan sicrhau eich bod yn cael gwybod am y posibilrwydd o lifogydd yn y mannau sydd bwysicaf i chi.
Mae cofrestru yn syml ac am ddim — ewch i naturalresources.wales/cofrestru neu ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 (Typetalk: 0345 602 634).
Gwybod beth yw eich perygl llifogydd a pharatoi ymlaen llaw yw'r ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch eiddo. Mae gan wefan CNC gyfoeth o wybodaeth i’ch helpu chi – adnoddau naturiol.cymru/llifogydd
Peidiwch ag aros nes bydd y stormydd yn cyrraedd - byddwch yn barod am lifogydd y gaeaf hwn a chymerwch gamau nawr i leihau’r perygl i’ch cartref a’ch teulu.