Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth ym Mhowys sy'n hyrwyddo mynediad digidol wedi ennill Gwobr Genedlaethol Cynaliadwyedd

Gwobrwywyd gweithwyr proffesiynol ledled GIG Cymru am eu llwyddiannau wrth wneud gwasanaethau gofal iechyd yn fwy cynaliadwy yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru 2024 yr wythnos diwethaf.

Mae'r gwobrau'n dathlu ymdrechion staff i gyflawni canlyniadau ecogyfeillgar yn y gwaith, a phrosiectau sy'n gwneud newidiadau parhaol. 

Roedd ennill y Wobr Cymunedau Cydlynus yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Byw'n Dda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, tîm Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys a Hygyrchedd Powys i oresgyn rhwystrau at fynediad digidol.

Mae'r gwaith partneriaeth, dan y teitl "Chwalu Rhwystrau - Cefnogi pobl i gael mynediad at ofal iechyd digidol yng nghefn gwlad Powys" yn cynnwys darparu cymorth digidol i ddefnyddwyr gwasanaeth ledled Powys yn amrywio o sicrwydd a hyfforddiant ar ddefnyddio technoleg hyd at drefnu benthyciadau iPads o lyfrgell leol. Mae hyd yn oed yn darparu cefnogaeth unigol i bobl yn eu cartref.

Tim Smith yw Rheolwr Busnes Gwasanaeth Byw’n Dda’r bwrdd iechyd: "Mae'n wych cael y gydnabyddiaeth am y gwaith hwn gan ein bod ni’n teimlo ei fod yn dod â'r gwasanaeth iechyd i'r bobl yn hytrach na gorfod teithio. Yn amlwg, nid yw gofal iechyd 'o bell' yn gweithio i bob person a phob cyflwr, ond i lawer o bobl mae'n gweithio'n dda iawn, gan arbed amser a chostau teithio iddynt."

"Ond mae hyn wedi bod yn bartneriaeth rhyngom ni, y cyngor a Hygyrchedd Powys mewn gwirionedd - ni allem fod wedi gwneud i'r gwaith yma weithio ar ein pen ein hunain," ychwanegodd Mr Smith.

Mae'r timau wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd ers dwy flynedd, gan sefydlu ffordd i staff y bwrdd iechyd gyfeirio pobl sydd angen mynediad at gysylltedd digidol yn uniongyrchol at wasanaeth y llyfrgell. Mae'r broses syml hon yn galluogi pobl i gyrchu cymorth ar amser ac mewn lle sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw.

Dywedodd Tilly Boscott-Moses, Swyddog Digidol o fewn gwasanaeth llyfrgell y cyngor: "Rydym wrth ein bodd bod ein cynllun benthyca iPad wedi cael ei gydnabod fel hyn, gan ddangos gwerth cryfhau cydweithredu cymunedol cryf. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth staff y llyfrgell, sydd wedi rhannu ein gweledigaeth o gynhwysiant digidol ymhlith holl aelodau'r gymuned. Mae ein partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ein galluogi i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf pan fydd ei angen arnynt fwyaf, a thrwy hwyluso mynediad at apwyntiadau digidol drwy ein Cynllun Benthyca iPad, rydym yn agosach at ddileu'r rhaniad digidol ym Mhowys."

Mae Hygyrchedd Powys wedi helpu pobl sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw i gymryd rhan. Maria Whittaker yw ei Brif Swyddog Gweithredol: "Rydym wrth ein bodd ond mae'n rhan o daith hir i bontio'r bwlch digidol a chwalu rhwystrau digidol yn ein cymunedau."

Dywedodd Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, Kirsty Williams: "Mae'r gwasanaethau i gyd wedi gweithio gyda'i gilydd i wneud gwaith anhygoel i helpu goresgyn yr unigrwydd a'r her hon. Maen nhw wedi ei wneud trwy fagu hyder digidol, helpu pobl i gymryd y camau maen nhw eu heisiau ac angen er mwyn byw bywyd llawn."

Er bod cymorth ar gael yn uniongyrchol drwy bob un o'r tri sefydliad, mae'r bartneriaeth wedi gwneud mynediad at gymorth mor syml â phosibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan alluogi'r cynnig rhagweithiol o gymorth gyda'r dechnoleg ochr yn ochr â threfnu apwyntiadau clinigol.

 Mae'r holl gymorth a ddarperir yn rhad ac am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n ymgysylltu â'r bwrdd iechyd, waeth beth fo'u cyflwr iechyd neu incwm.

Dyma restr lawn o enillwyr y gwobrau cenedlaethol:

  1. Gwobr Cynaliadwyedd mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth y Prif Swyddog Nyrsio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  2. Gwobr Lledaeniad a Graddfa - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  3. Gwobr Hyrwyddwr Cynaliadwyedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  4. Gwobr Cymunedau Cydlynus Cymru - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  5. Gwobr Cymru Fwy Cyfartal - Ysbyty'r Tywysog Charles
  6. Gwobr Diwylliant ac Iaith Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  7. Gwobr Cymru Lewyrchus - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  8. Gwobr Cymru Gydnerth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  9. Gwobr Cymru Iachach - Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  10. Gwobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

 

 

Llun: Tîm Digidol Byw’n Dda Powys yn y seremoni. O'r chwith, Charles Patterson (Hwylusydd Digidol), Katie Jones (Rheolwr Prosiect Digidol), Tim Smith (Rheolwr Busnes), Owen Hughes (Pennaeth Gwasanaeth)"