Neidio i'r prif gynnwy

Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr dros dro yn dilyn secondiad Carol Shillabeer i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Heddiw mae Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, wedi cyhoeddi penodiad Hayley Thomas yn Brif Weithredwr dros dro'r Bwrdd Iechyd.

Ar hyn o bryd, Hayley yw Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategaeth, Partneriaethau a Gofal Sylfaenol y bwrdd iechyd, a bydd yn dechrau yn ei swydd newydd yfory (dydd Mercher 3 Mai 2023).

Daw'r penodiad hwn wrth i Carol Shillabeer ddechrau cyfnod secondiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Prif Weithredwr dros dro wrth iddynt recriwtio i'r rôl barhaol.

Meddai Carl:

“Rwy'n ddiolchgar iawn i Hayley Thomas am gytuno i gamu mewn i rôl y Prif Weithredwr yma ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys dros dro. Bydd llawer ohonoch yn adnabod Hayley, ei chyfoeth o brofiad a'r ffordd y mae wedi arwain llawer o feysydd gweithredol er budd y bwrdd iechyd hwn, pobl Powys ac yn ehangach ledled Cymru.

"Rwyf wrth fy modd i’n Prif Weithredwr, Carol Shillabeer. Mae ei phenodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dyst i'w harbenigedd, ei sgiliau a'i phrofiad, ac yn adlewyrchu'r hyder y mae'n ei fagu yn y GIG a Llywodraeth Cymru trwy ei harweinyddiaeth, ei gofal a'i thosturi. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl dros dro."

Cafodd Hayley Thomas ei phenodi yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad y bwrdd iechyd ym Mehefin 2015. Ers ei phenodiad i'r Bwrdd, bu’n arwain ystod eang o bortffolios gan gynnwys iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gwasanaethau cymunedol, gofal sylfaenol, cyfalaf ac ystadau, comisiynu, perfformiad, strategaeth a phartneriaethau. Ar hyn o bryd mae hi'n Ddirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Partneriaethau a Gofal Sylfaenol.

 

 

Cyhoeddwyd: 02/05/2023