Neidio i'r prif gynnwy

Profion COVID-19 cyflym ar gyfer staff asymptomatig yn lansio ym Mhowys

Bydd profion COVID-19 cyflym ar gyfer staff iechyd a gofal asymptomatig yn cael eu treialu ym Mhowys o'r wythnos nesaf (14 Rhagfyr). Mae'r rhaglen yn defnyddio Profion Llif Ochrol (LFT) y gellir eu gweinyddu eu hunain, a gallant gynhyrchu canlyniadau o fewn 30 munud.

Bydd y rhaglen ym Mhowys yn lansio gyda dau dîm braenaru o staff y bwrdd iechyd, un yng Ngogledd Powys ac un yn Ne Powys.

Disgwylir ei gyflwyno ar gyfer staff iechyd a gofal ym Mhowys yn ehangach o ganol mis Ionawr.

Dywedodd Claire Preece, Arweinydd Clinigol ar gyfer Profi COVID-19 ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae'n hanfodol bod pawb yn deall na all profi ar ei ben ei hun ddileu'r risgiau sy'n gysylltiedig â dal a throsglwyddo Covid-19.  Mae profi yn gam lliniaru risg y mae angen ei gymryd ochr yn ochr â mesurau eraill i reoli ac atal haint, defnyddio cyfarpar diogelu personol yn effeithiol a mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo priodol.”

Er nad yw LFTs mor sensitif â phrofion RT-PCR mewn labordai, drwy brofi'n amlach gydag LFTs, megis ddwywaith yr wythnos, mae cyngor gwyddonol wedi dangos bod eu cywirdeb yn cyfateb i brofion RT-PCR.

Mae mwy o wybodaeth am brofion COVID-19 cyflym ar gyfer staff asymptomatig yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://llyw.cymru/cyflwyno-profion-covid-cyflym-rheolaidd-i-staff-iechyd-gofal-cymdeithasol-y-rheng-flaen-yng-nghymru