Mae optometrydd blaenllaw o Bowys yn gofyn i’r cyhoedd gadw golwg ar broblemau llygaid ymhlith y genhedlaeth hŷn mewn ymgais i helpu i atal cwympiadau.
Mae’r apêl yn rhan o ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru sy’n annog pobl i gymryd camau ataliol i helpu i osgoi’r angen am ofal meddygol brys wrth i’r GIG adfer o Covid-19.
Meddai Paul Cottrell – yr Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Optometreg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion bach y gallai rhywun fod yn cael trafferth gyda’u golwg. Gall y rhain gynnwys baglu oherwydd bod rhywun wedi camfarnu ymyl y ris neu’r palmant, neu eu bod wedi methu’r cwpan wrth arllwys dŵr o’r tegell. Arwydd arall o broblem golwg yw ei chael hi’n anodd llenwi ffurflenni, camddarllen llythyron neu losgi neu sgaldio’u hunain wrth goginio.
“Drwy edrych am y cliwiau bach yma, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth helpu pobl hŷn i aros yn ddiogel yn ein cymunedau. Ac os yw rhywun wedi bod yn gwisgo’r un pâr o sbectol ers amser maith, mae’n werth gwneud yn siŵr eu bod nhw’n dal i fod yn addas.
Yn ôl yr optometrydd, gall canfod cyflyrau llygaid fel glawcoma a chataractau yn gynnar olygu eu bod yn haws eu trin tra gall archwiliadau llygaid rheolaidd hefyd osgoi cwympiadau:
“Mae namau ar y llygaid yn chwarae rhan sylweddol mewn cwympiadau ymhlith pobl hŷn,” ychwanega Paul. “Felly, os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw arwyddion bach y gallai ffrind neu aelod o’r teulu fod yn ei chael hi’n anodd, mae’n syniad da trefnu apwyntiad gydag optometrydd. Gallai helpu i osgoi cwymp cas a all arwain at arhosiad hir yn yr ysbyty.”
Mae Coleg yr Optometryddion wedi adrodd mai cwympiadau, ym Mhrydain, yw’r achos mwyaf cyffredin dros dderbyniadau i’r ysbyty ymhlith pobl dros 65 oed, a’r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau damweiniol ymhlith pobl dros 75 oed.
Mae cynllun Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru yn darparu gofal llygaid brys am ddim i bob claf yn eich optegydd stryd fawr, a gall pobl dros 60 oed gael profion llygaid rheolaidd am ddim i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn. Mae optegwyr yn gweithredu mewn ffordd sy’n ddiogel o ran Covid gydag apwyntiadau sy’n cadw pellter cymdeithasol.
Gallwch ddod o hyd i’ch gwasanaethau optometreg GIG agosaf ar wefan GIG 111 Cymru.