Mae trefnu prawf PCR yn parhau i fod yn hanfodol i bobl sy'n agored i niwed yn glinigol, esbonia Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru nid oes angen archebu prawf PCR dilynol ar ôl prawf llif unffordd positif. Hoffai Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Stuart Bourne, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, atgoffa pawb y dylai pobl sy'n agored i niwed yn glinigol barhau i gael prawf PCR os oes ganddynt brawf llif unffordd bositif, hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau. Mae’n bwysig hefyd eu bod yn gwneud hynny os oes ganddynt symptomau COVID neu os ydynt wedi cael cyngor i wneud hynny fel rhan o raglen ymchwil neu raglen cadw gwyliadwriaeth.
Nid oes angen i weddill y gymuned bellach wneud prawf PCR dilynol i gadarnhau canlyniad positif prawf llif unffordd os nad oes ganddynt symptomau COVID.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar hunan-ynysu a phrofi ar gael ar https://icc.gig.cymru/pynciau/homepage-pop-up-cy/
Gofynnir i bawb sicrhau eu bod yn cael eu brechiadau COVID a'r brechlyn atgyfnerthu sy'n addas i'w hoedran a'u cyflwr iechyd. Mae manylion ar gael ar ein gwefan ar https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/brechu-covid-19/ ac mae brechlynnau yn parhau i fod ar gael ledled Powys.
Cyhoeddwyd: 13/01/2022