Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio cyn-filwyr: stori Lucie

delwedd o Lucie Cornish

Yn yr ail o'n herthyglau am gyn-bersonél y lluoedd arfog sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, buom yn siarad â Lucie Cornish, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddorau Iechyd. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Civvy Street Magazine.

Beth yw eich cefndir milwrol?

Roeddwn i’n gwasanaethu am 11 mlynedd fel Swyddog Ffisiotherapi yn y Fyddin Brydeinig, gan weithio ar draws amrywiaeth o leoliadau yn y DU ac ar weithrediadau. 

Penderfynais adael y Fyddin tra ar absenoldeb mamolaeth i alluogi mwy o sefydlogrwydd i'm teulu gan fod fy ngŵr hefyd yn Swyddog gwasanaethu yn yr RAF ar y pryd. Mynychais ddigwyddiad Camu i Iechyd yn Llundain a oedd yn werthfawr o ran deall yr opsiynau cymorth sydd ar gael i ddilyn gyrfa yn y GIG a chefais fy nghefnogi gydag ysgrifennu CV a cheisiadau drwy'r llwybr hwn a thrwy fy nghanolfan addysg leol. 

 

Sut wnaethoch chi ddod i weithio i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys?

Fe wnes i fy nghylchdro Iau fel Ffisiotherapydd yn y GIG cyn ymuno â'r Fyddin felly roedd gen i brofiad o'r GIG eisoes a wnaeth y trawsnewid yn hawdd, ond rydw i’n gwybod bod y rhai heb brofiad blaenorol wedi cael cefnogaeth dda iawn. Dechreuais weithio i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ym mis Ionawr 2021 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddorau Iechyd. Cyn hynny, roeddwn wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau mewn gofal iechyd preifat ac fel arweinydd clinigol ar brosiect adeiladu ysbyty mawr yn Ne Cymru. Croesawais y cyfle i symud yn ôl i rôl sy'n gysylltiedig â Therapïau ym Mhowys, gan wybod y byddai'n defnyddio'r holl sgiliau yr oedd y Fyddin wedi'u rhoi imi. Mae Powys yn sir enfawr ond fe wnaeth pandemig Covid 19 gynyddu'r hyblygrwydd i bobl weithio mewn ffordd wahanol, yn aml o bell a oedd o gymorth mawr.

 

Pa sgiliau o'r fyddin oedd yn drosglwyddadwy i weithio ym Mhowys?

Yn y fyddin ac ers gadael, rwyf wedi manteisio ar yr holl gyfleoedd a oedd ar gael i mi sydd wedi fy helpu addasu i amgylcheddau a sefyllfaoedd newydd yn gyflym, roedd hyn yn ddefnyddiol iawn wrth ymuno â sefydliad newydd yn ystod pandemig COVID-19.  Rhoddodd y fyddin gyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy i mi mewn rheolaeth weithredol ac arweinyddiaeth strategol sydd wedi bod yn allweddol yn fy rôl bresennol, ni allwch chi danbrisio'r budd o fod wedi gweithio mewn sector gwahanol wrth geisio dod o hyd i atebion ar gyfer yr heriau y mae'r GIG yn ei wynebu heddiw.

 

Sut brofiad yw hi ym Mhowys fel cyn-filwr?

Mae gen i lawer o ymreolaeth yn fy rôl ac mae hyn yn wir am lawer o rolau ym Mhowys.  Fel cyn-filwr, mae hyn wirioneddol yn fy ngalluogi i.  Mae'n sir hardd iawn i weithio ynddi, gyda llawer o gyfle am anturiaethau yn yr awyr agored.

 

Pa gyngor allwch chi ei gynnig i'r rhai sy'n ystyried gadael y lluoedd?

Mae mwy i’r GIG na rolau clinigol yn unig. Edrychwch ar swyddi o ran cymwyseddau a sgiliau craidd, mae cymaint o rolau yn y GIG sydd angen y sgiliau a enillwyd dros gyfnod gyrfa filwrol.  Mae gweithio yn y GIG yn heriol ond mae'n swydd sy'n fy ngalluogi i weithio yn unol â’m gwerthoedd craidd sydd, yn fy marn i, yn bwysig i lawer o gyn-filwyr.

 

Rhyddhawyd: 28/12/2024

Rhannu:
Cyswllt: