Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio cyn-filwyr: Stori Lynda

Lynda Mathias yn sefyll o flaen arwydd ysbyty coffa Rhyfel Sir Frycheiniog

Yn y cyntaf o'n herthyglau am gyn-aelodau'r lluoedd arfog sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, buom yn siarad â Lynda Mathias, Clinigwr Arweiniol, Ansawdd a Diogelwch. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Civvy Street Magazine.

 
Beth yw eich cefndir milwrol?

Ymunais â’r Fyddin yng Nghorfflu Nyrsio Brenhinol y Frenhines Alexandra fel preifat ym 1996, i ddechrau hyfforddiant nyrsio myfyrwyr. Fy mhrofiad cyntaf oedd ar ôl iddyn nhw atal eu hyfforddiant oherwydd Rhyfel y Gwlff. Gadawais ym mis Ionawr y llynedd fel Is-gyrnol. Sut oedd ailsefydlu? Roedd ychydig yn wahanol oherwydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf y rhoddais fy hysbysiad o ddiweddu contract. Roeddwn i wedi siarad â'r rhai a oedd wedi mynd drwy'r broses, a rhoddon nhw lawer o gyngor i mi a oedd yn ddefnyddiol iawn. Er hynny, roedd hi’n brofiad iawn oherwydd yn ystod fy mhostiad diwethaf, es i’r GIG yn Lloegr yn Llundain fel y Swyddog Cysylltu â'r Lluoedd Arfog, ac fe wnes i gronni cryn dipyn o wyliau blynyddol. Roedd fy amser yn adsefydlu gwirioneddol yn braf gan nad oedd gen i unrhyw bwysau o'r gwaith felly gallwn ganolbwyntio ar yr hyn yr oeddwn am ei wneud, ac roeddwn yn gallu adleoli adref yng Nghanolbarth Cymru. Roedd yr holl gyrsiau y gwnes i gais amdanynt i gyd ar-lein, felly roedd yn amser eithaf braf a sefydlog i mi.

 

Sut wnaethoch chi ddechrau gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?

Bu Lynda Mathias yn gwasanaethu am 25 mlynedd cyn dechrau ar ei her bresennol fel Clinigydd Arweiniol, Ansawdd a Diogelwch, gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Canolbarth Cymru). BYWYD A SGILIAU SIFIL Beth oedd y sgiliau a'r profiadau o’r Fyddin rhoddodd yr hyder i chi ddweud 'dyma’r swydd i mi'? Roedd y wybodaeth nyrsio roedd gen i yn drosglwyddadwy, ond mae'r boblogaeth Filwrol yn wahanol i'r demograffig yr wyf yn gyfrifol amdano ar hyn o bryd. Ond eto, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n fy nhroi i ffwrdd oherwydd credaf eich bod chi'n cymryd yr hyder hwnnw gyda chi, os nad ydych chi'n gwybod rhywbeth, nad ydych chi'n gadael i hynny eich digalonni, rydych chi'n dod o hyd i'r ateb, dydych chi ddim yn aros i rywun dweud wrthoch chi’r ateb, rydych chi'n cymryd y cam hwnnw ymlaen ac yn darganfod eich hun. Roeddwn i'n gwybod bod gen i'r ddealltwriaeth graidd honno o'r hyn oedd ei angen ar y swydd ac mewn gwirionedd popeth arall o'i chwmpas oedd yr hyn y gallwn ei ddysgu’n eithaf cyflym a chydnabod y meysydd doeddwn i ddim mor gyfarwydd â nhw; rydych chi’n mynd i ffwrdd ac yn chwilio am atebion. Rwy'n credu bod hyder wrth fynd i mewn i amgylchedd newydd a gweithio gyda thîm newydd yn rhywbeth rydyn ni'n ei gymryd gyda ni. Rydyn ni wedi arfer â chael ein parasiwtio i mewn i brofiad newydd neu amgylchedd newydd, gyda phobl newydd, ac rydyn ni'n gwybod sut i ymgysylltu â phobl a dod ymlaen â thimau a setlo yn eithaf cyflym. 4 Roeddwn i'n ffodus iawn yn y ffaith bod GIG Lloegr yn gwybod fy mod i'n gadael ac fe wnaethant gysylltu â mi i ddweud bod ganddyn nhw swydd ar gael pe bawn i eisiau gwneud cais amdani. Felly, dechreuais gontract cyfnod penodol ac roedd yn hyfryd gallu cael y sicrwydd hwnnw o gamu i mewn i swydd. Rwyf bob amser yn edrych yn ôl ac yn meddwl, wel mewn gwirionedd roedd fy amser yn gweithio yno dros gyfnod o fisoedd yn debygol o fod fy nghyfweliad. Maen nhw'n dod i'ch adnabod chi a beth rydych chi'n ei wneud a beth allwch chi ei wneud. Byddent wedi cynnig contract parhaol i mi, ond, roeddwn i wedi setlo yn ôl adref ym Mhowys yng Nghanolbarth Cymru. Roedd yn well gen i rywbeth yn nes at adref ac mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn llythrennol 10 munud i lawr y ffordd. Felly, dechreuais edrych ar ba swyddi oedd ar gael gyda nhw a daeth fy rôl ar hyn o bryd fyny, fel Clinigydd Arweiniol Ansawdd a Diogelwch, a daliodd hynny fy llygad ar unwaith oherwydd fy mod wedi gwneud llawer o waith yn y Fyddin gyda llywodraethu a sicrwydd ac roeddwn i'n meddwl y gallwn yn bendant gamu i mewn i'r rôl hon. Fe wnes i gais amdano a gwnaethon nhw gynnig y swydd i mi.

 

Beth oedd y sgiliau a'r profiadau o’r Fyddin rhoddodd yr hyder i chi ddweud 'dyma’r swydd i mi'?

Roedd y wybodaeth nyrsio roedd gen i yn drosglwyddadwy, ond mae'r boblogaeth Filwrol yn wahanol i'r demograffig yr wyf yn gyfrifol amdano ar hyn o bryd. Ond eto, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n fy nhroi i ffwrdd oherwydd credaf eich bod chi'n cymryd yr hyder hwnnw gyda chi, os nad ydych chi'n gwybod rhywbeth, nad ydych chi'n gadael i hynny eich digalonni, rydych chi'n dod o hyd i'r ateb, dydych chi ddim yn aros i rywun dweud wrthoch chi’r ateb, rydych chi'n cymryd y cam hwnnw ymlaen ac yn darganfod eich hun. Roeddwn i'n gwybod bod gen i'r ddealltwriaeth graidd honno o'r hyn oedd ei angen ar y swydd ac mewn gwirionedd popeth arall o'i chwmpas oedd yr hyn y gallwn ei ddysgu’n eithaf cyflym a chydnabod y meysydd doeddwn i ddim mor gyfarwydd â  nhw; rydych chi’n mynd i ffwrdd ac yn chwilio am atebion. Rwy'n credu bod hyder wrth fynd i mewn i amgylchedd newydd a gweithio gyda thîm newydd yn rhywbeth rydyn ni'n ei gymryd gyda ni. Rydyn ni wedi arfer â chael ein parasiwtio i mewn i brofiad newydd neu amgylchedd newydd, gyda phobl newydd, ac rydyn ni'n gwybod sut i ymgysylltu â phobl a dod ymlaen â thimau a setlo yn eithaf cyflym.

 

Beth yw agwedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch Cyn-filwyr?

Rwy'n credu oherwydd lle rydyn ni wedi'n lleoli, yn amlwg mae yna lawer o gysylltiadau Milwrol. Mae nifer uchel o Gyn-filwyr yn byw yno ac maen nhw’n sicr yn gweithio yn unol â hynny, mae llawer o waith yn cael ei wneud i'w cefnogi. Fel cyflogwr, mae gan unrhyw fwrdd iechyd y GIG swyddi i bawb, felly nid meddygon a nyrsys yn unig, mae rhywbeth yma i bawb, gweinyddiaeth neu ofal iechyd, hyd yn oed i bobl heb gymwysterau proffesiynol. Mae cynlluniau i'ch rhoi ar lwybr at ennill y cymwysterau hynny, felly maen nhw'n agored iawn ac rwy'n credu fy mod wedi arfer yn fawr â phoblogaeth Filwrol.

 

Beth fyddai eich cyngor gorau i'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth ar hyn o bryd?

Y peth cyntaf fyddai peidio â gwneud penderfyniadau ar chwim. Fodd bynnag, os a phryd y dewch chi i'r penderfyniad hwnnw, a'ch bod chi'n meddwl ie, mae'n bryd i mi symud ymlaen, byddwn i'n dweud ceisiwch gynllunio'n gynnar a chynllunio'n dda. Rydych yn cael cyfle da iawn i adsefydlu gyda'r cyllid a gewch ar gyfer cyrsiau ac amser a ddyrennir i chi. Mae'n ymwneud â'i ddefnyddio mor ddoeth ag y gallwch, siarad â chymaint o bobl ag y gallwch, manteisio i'r eithaf ar yr hyn a gynigir, ac yn lle meddwl efallai ei fod yn ymwneud â chael cyrsiau i'w rhoi ar eich CV, ystyriwch y lleoliadau gwaith yn eich ardal. Oherwydd bod dangos yr hyn y gallwch ei wneud yn lle siarad am yr hyn y gallwch ei wneud, yn cyfrif weithiau yn fwy na'r hyn sydd ar eich CV. Edrychwch ar yr holl gyfleoedd a phosibiliadau - ond cynllunio sy’n bwysig, peidiwch â'i adael tan y funud olaf.

 

Beth ydych chi'n ei fethu o fod yn y Lluoedd?

Wel, dwi'n edrych yn ôl dros fy ngyrfa a dwi'n meddwl, waw! Pan fyddwch chi'n ysgrifennu cais am swydd, mae'n gofyn i chi roi eich swyddi a'ch profiadau blaenorol i lawr a myfyrio ar yr hyn rydych chi wedi'i wneud a'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Rhywbeth mae’n rhaid i bawb gwneud. Y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw a'r profiadau rydw i wedi'u cael ydy’r prif beth. Rwy'n credu bod y Fyddin yn cynnig yr amrywiaeth honno. Dydych chi ddim yn ei werthfawrogi'n llawn ar y pryd, dim ond pan fyddwch chi, mae'n debyg, yn y sefyllfa rydw i nawr, a'ch bod chi'n edrych yn ôl y byddwch chi’n wirioneddol yn ei werthfawrogi i’r eithaf. Er hynny, gallwch chi ddim edrych yn ôl o hyd. Rwy'n credu bod angen edrych ymlaen oherwydd mewn gwirionedd, dyma'r bennod nesaf yn eich bywyd Milwrol, bod yn Gyn-filwr. Edrych ymlaen mewn ffordd gadarnhaol ond bob amser yn cario'r profiad hwnnw gyda chi.

 

Rhyddhawyd: 21/12/2023