Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio Is-gadeirydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Croesewir ceisiadau drwy wefan Llywodraeth Cymru erbyn 3 Hydref 2025.
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd o Is�gadeirydd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nawr yn fwy nag erioed, mae'r cyfraniad a wneir gan ein penodwyr cyhoeddus yn ganolog i sicrhau Bwrdd sy'n gwella'n gyson a sy'n angerddol am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd lleol o ansawdd i fynd i'r afael â'r anghenion lleol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ac os hoffech wybod mwy am rôl bwysig Is-gadeirydd o fewn GIG Cymru, cysylltwch â Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a fydd yn falch o drafod y rôl hon gyda chi ar fy rhan.
Mae eich diddordeb mewn gwasanaethu fel Is-gadeirydd o'n Bwrdd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Gan adlewyrchu ein hymrwymiad i amrywiaeth bwrdd, croesewir ceisiadau gan grwpiau poblogaeth sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.
Fel Bwrdd Iechyd mawr, gwledig iawn, mae Powys yn cyflwyno cyfleoedd a heriau penodol. Mae hyn yn gwneud aelodaeth y Bwrdd yn arbennig o ddiddorol, ysgogol a phleserus. Rydym yn awyddus i benodi rhywun sydd â'r sgiliau angenrheidiol, ond hefyd rhywun sy'n ymgorffori gwerthoedd a diwylliant ein sefydliad.
Rydym yn Fwrdd unedol, sy'n cynnwys aelodau gweithredol ac annibynnol. Bydd ein cydweithiwr bwrdd newydd yn helpu i wella cydlyniant tîm ymhellach ac effeithiolrwydd ein llywodraethiant.