Heddiw mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwahodd gweithwyr iechyd a gofal ym Mhowys i fwcio ar gyfer Brechu COVID-19.
Dywedodd Carol Shillabeer, PSG Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Dyma'r diwrnod rydyn ni wedi bod yn aros amdano ers misoedd lawer. Er bod gwaith ar y gweill o hyd, credwn ein bod o fewn wythnos i gael meintiau o'r brechlyn cyntaf i Bowys.
"Mae'r wybodaeth rydym wedi bod yn gweithio gyda hi yn dangos, oherwydd nodweddion penodol y brechlyn cyntaf (brechlyn Pfizer/BioNtech), mae angen i bobl ddod i'r brechlyn yn hytrach na gallu mynd â'r brechlyn allan i bobl.
"Mae hyn yn golygu mai staff blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn cyntaf fydd staff iechyd a gofal, yn enwedig y rhai mewn rolau sy'n wynebu cleifion, ac wrth inni ddeall manylion y gymeradwyaeth reoliadol byddwn yn ehangu cyn gynted â phosibl i bobl mewn cartrefi gofal a phobl dros 80 oed. Mae'r penderfyniad hwn yn cael ei arwain gan y Llywodraeth a chan y JCVI (Cyd-bwyllgor Brechu ac imiwneiddio - corff arbenigol yn y DU ar frechlyn).
"Rydym eisiau bod yn barod i frechu cyn gynted ag y bydd y brechlyn yn cyrraedd ac felly gallaf gadarnhau nawr bod y system bwcio bellach yn fyw i staff iechyd a gofal ar draws Powys er mwyn bwcio.
"Cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â brechu ehangach aelodau o'r cyhoedd, byddwn yn cyfathrebu hyn yn eang ledled Powys. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu neu fferyllydd ynglŷn â'r brechlyn COVID ar hyn o bryd.”
Mae gwahoddiadau i weithwyr iechyd a gofal yng ngham cyntaf y rhaglen frechu hon yn cael eu hanfon atynt gan eu cyflogwr.
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghymru ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru .