Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich barn ar wasanaethau radiotherapi lloeren yn Ysbyty Nevill Hall

Fel rhan o gynlluniau Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre i adeiladu Canolfan Lloeren Radiotherapi (RSC) yn Ysbyty Nevill Hall, maent yn ceisio gofyn i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yn ogystal â staff am eu barn ar y newid hwn i wasanaethau radiotherapi yn y de ddwyrain Cymru.

Mae'n rhan o'n cydweithredu ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau radiotherapi yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn arwain at well gofal i gleifion, yn ogystal â chanlyniadau.

Rydym am annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan a rhannu eu barn fel bod y newid gwasanaeth a'r cynlluniau RSC cyffredinol yn cael eu llunio gan eich adborth. Gallwch wneud hynny trwy lenwi'r holiadur neu drwy gofrestru ar gyfer un o'r digwyddiadau Velindre ar-lein.

Ewch i wefan Ymddiriedolaeth GIG Velindre i ddarganfod mwy a dweud eich dweud: Datblygiad Canolfan Radiotherapi Lloeren - Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Mae’r cyfle ymgysylltu â’r cyhoedd yn rhedeg am wyth wythnos, o ddydd Iau 20 Mai tan ddydd Gwener 9 Gorffennaf 2021.