Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Strategaeth Ganser Genedlaethol newydd ar gyfer Cymru. Nod y strategaeth yw gwella'r canlyniadau i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru, a'u profiadau. Wrth sôn am ganlyniadau o ran canser, yr hyn a olygir yw am ba mor hir y bydd pobl yn goroesi ar ôl diagnosis o ganser, a nifer y bobl sy'n marw o ganser bob blwyddyn.
Maen nhw am glywed sylwadau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan bobl a sefydliadau yng Nghymru, am ddyfodol gofal canser.
Dysgwch fwy a dywedwch eich dweud ar Wefan Ymgynghori Strategaeth Ganser Genedlaethol Cymru.
Rhyddhawyd: 03/09/2026