Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli diwedd eich dyddiau prifysgol

Myfyrwyr yn seremoni raddio.

Mae gorffen prifysgol yn garreg filltir bwysig. Gall graddio ddod â chyffro a chyfleoedd, ond i rai gall hefyd olygu ansicrwydd, pwysau a theimlad o golled wrth i arferion cyfarwydd, cyfeillgarwch a threfniadau byw newid. 

Os yw’r newid o fywyd myfyriwr i fywyd graddedig yn heriol i chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Fe wnaethon ni siarad â Niki Jones, cwnselydd gyda thîm lles Prifysgol Bangor, am ei chynghorion gorau ar gyfer cefnogi eich lles meddyliol yn ystod y cyfnod hwn o newid. 

1. Derbyn bod emosiynau cymysg yn normal 

Mae gadael prifysgol yn aml yn golygu newidiadau mawr i'ch ffordd o fyw, rhwydweithiau cymorth a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n gyffrous un diwrnod ac yn orbryderus y diwrnod canlynol – ac mae hynny'n hollol iawn.  

“Yn aml, mae cyfnodau o drawsnewid yn gofyn inni adael gafael ar rywbeth sy’n teimlo’n gyfarwydd a chamu i rywbeth llai rhagweladwy, llai sicr,” meddai Niki. 

“Cofiwch nad oes ffordd gywir na ffordd anghywir o deimlo am unrhyw newid – yn enwedig hyn. Gadewch i chi'ch hun gael teimladau cymysg." 

2. Cadw mewn cysylltiad  

Gall y cyfeillgarwch a'r systemau cymorth rydych chi'n eu hadeiladu yn y brifysgol fod yn amhrisiadwy ar ôl graddio, ac mae ymchwil yn dangos bod cysylltiadau cymdeithasol yn ffactor amddiffynnol hanfodol ar gyfer iechyd meddwl.  

“Gwnewch gynlluniau gweithredol i gyfarfod a chadw mewn cysylltiad,” awgryma Niki. “Ond ar yr un pryd, cydnabyddwch y gallai cyfeillgarwch newid neu esblygu os byddwch chi'n mynd i mewn i'r cyfnod newydd hwn yn eich bywyd. Efallai bod pethau na allwch chi neu nad ydych chi eisiau eu gwneud mwyach gyda'ch grŵp ffrindiau – ond nid yw hynny'n golygu bod rhaid i berthnasoedd ddod i ben. 

“Byddwch yn agored ac yn barod i siarad – efallai y byddwch yn gweld bod eich ffrindiau’n wynebu heriau tebyg, a bydd trafod y rhain yn gwneud i chi deimlo’n llai unig.” 

3. Canolbwyntiwch ar y cam nesaf, nid y dyfodol cyfan 

“Gall myfyrwyr blwyddyn olaf a graddedigion deimlo llawer o orbryder ynghylch 'beth sy'n digwydd nesaf',” meddai Niki. “Maen nhw’n poeni am gael popeth wedi’i ddatrys, ond y gwir amdani yw mai ychydig iawn o bobl fydd â chynllun perffaith.” 

Yn hytrach, mae hi'n awgrymu cymryd pethau gam wrth gam, a chanolbwyntio ar dasgau y gellir eu rheoli, fel diweddaru eich CV, archwilio cyfleoedd neu siarad â chynghorydd gyrfaoedd.  

Nid yw llwybrau gyrfa wedi'u gosod mewn carreg ac anaml y maent yn llinol. Fel mae Niki yn ei ddweud: “Rhowch gynnig ar bethau a chaniatáu i chi’ch hun wneud camgymeriadau. Byddwch yn agored i bethau newydd a gwybod y bydd y bennod nesaf yn dechrau. Efallai na fyddwch yn dod o hyd i'r swydd berffaith yn eich maes dewisol ar unwaith, ond nid yw hynny'n golygu eich bod chi wedi methu.” 

4. Dathlu eich cyflawniadau 

Mae eich profiad prifysgol yn golygu cymaint mwy na'ch tystysgrif gradd, felly cymerwch amser i fyfyrio ar sut rydych chi wedi tyfu. 

“Rydych chi’n gadael y brifysgol yn berson hollol wahanol,” meddai Niki. “Rydych chi wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi goresgyn heriau nad oeddech chi byth yn meddwl eu bod yn bosibl. Mae'n hawdd syrthio i'r fagl o feddwl y gellir mesur cyflawniad yn ôl graddau a chanlyniadau arholiadau – yn lle hynny cydnabyddwch sut rydych chi wedi datblygu fel person y tu allan i'ch astudiaethau.” 

5. Chwilio am gefnogaeth yn gynnar os ydych chi'n cael trafferth 

Os bydd straen, gorbryder neu hwyliau isel yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd, peidiwch ag aros i bethau waethygu. Gall gweithredu ar broblemau’n gynnar eich helpu chi ddatblygu strategaethau ymdopi a meithrin gwydnwch cyn i heriau ddod yn llethol. 

“Cydnabyddwch nad yw’r teimladau hynny’n golygu eich bod chi’n gwneud rhywbeth o’i le – yr anghysur hwnnw’n aml yw tarddiad ble rydych chi’n mynd i dyfu a phwy rydych chi’n mynd i fod,” awgryma Niki. 

“Mae cymorth a chefnogaeth ar gael bob amser – mae’n well ceisio hi’n gynnar. Siaradwch â ffrindiau, teulu, chwiliwch am adnoddau a all eich helpu. Efallai na fyddwch chi'n clywed yr hyn rydych chi eisiau ei glywed ar unwaith - ond daliwch ati. Peidiwch â rhoi'r gorau iddi!”  

Gall SilverCloud Cymru eich cefnogi yn hynny o beth – mae'n darparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles ar-lein am ddim i bobl 16 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru.  

Gall ein rhaglenni hyblyg a chyfrinachol helpu gyda straen, gorbryder, hwyliau isel, gwydnwch a lles, gan ganiatáu i chi feithrin sgiliau ymarferol ar eich cyflymder eich hun wrth i chi lywio'r newid o fywyd myfyriwr i fywyd graddedig. 

 

Cyhoeddwyd: 13/07/2026