Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gwahodd pobl hŷn i gysylltu â’i swyddfa i rannu eu profiadau o heneiddio mewn ardaloedd gwledig.
Drwy ei Phrosiect Lleisiau Gwledig, mae’r Comisiynydd eisiau dysgu mwy am yr heriau a’r rhwystrau y gall pobl hŷn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar wasanaethau a chymorth, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu bywydau.
Mae’n hawdd iawn cysylltu â’r Comisiynydd: Ewch i wefan y Comisiynydd i lenwi holiadur byr – Lleisiau Gwledig - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Ffoniwch 03442 640 670 os hoffech chi gael fersiwn bapur i’w llenwi, y gellir ei dychwelyd drwy Radbost (neu os byddai’n well gennych chi gael sgwrs ag aelod o dîm y Comisiynydd).
Drwy rannu eich profiadau, gallwch helpu i ddylanwadu ar bolisïau, cefnogi newid cadarnhaol, a siapio dyfodol gwell i bobl hŷn yng nghefn gwlad Cymru.
Rhyddhawyd: 09/07/2026