Neidio i'r prif gynnwy

Awydd bod yn heini? Rhowch gynnig ar rygbi cerdded a siarad!

Mae sesiynau rygbi Cerdded a Siarad yng Nghlwb Rygbi’r Trallwng yn mynd o nerth i nerth ac maen nhw nawr yn galw am i fwy o bobl ymuno â nhw ar y cae.

Mae'r sesiynau’n agored i ddynion a merched o bob oed ac yn cael eu cynnal bob nos Iau. Heb ddim taclo na rhedeg, mae'n ffordd hwyliog o chwarae rygbi, cael tipyn o ymarfer corff a chwrdd â phobl newydd.

David Roberts yw Cadeirydd Clwb Rygbi’r Trallwng. Mae’n esbonio:

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal y sesiynau ers chwech wythnos ac maen nhw’n wych gan ei bod yn agored i bawb sydd eisiau bod yn fwy heini heb ddim rhwystrau. Mae gennon ni dipyn o bobl yn dod i lawr sydd heb chwarae ers blynyddoedd lawer ond sy’n teimlo bod hwn yn rhywbeth sy'n caniatáu iddyn nhw ddal i fwynhau'r gamp maen nhw mor hoff ohoni. Rydyn ni hefyd yn falch iawn bod cymaint o ferched yn cymryd rhan.”

Er bod y sesiynau’n agored i bawb a bod llawer o gyn-chwaraewyr yn ailgysylltu â'r gamp yn ogystal â dechreuwyr, mae'r clwb hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Pont-hafren:

“Rydyn ni eisiau diwylliant o fewn y clwb sy’n gefnogol i les meddyliol pobl,” meddai David. “Rydyn ni’n gwybod bod dynion, yn enwedig, yn llai tebygol o drio cael cefnogaeth a siarad â’u ffrindiau am eu hiechyd meddwl, felly mae clybiau chwaraeon fel hwn mewn sefyllfa unigryw lle gallwn ni gyrraedd cynulleidfaoedd.

“Ond, wrth gwrs, dydyn ni ddim yn arbenigwyr iechyd meddwl, a dyna pam rydyn ni'n darparu cefnogaeth gofleidiol gan Bont-hafren. Ond mae’r clwb yn ffordd wych o gael y neges allan yna ac annog pobl i fod yn fwy agored am eu hiechyd meddwl, ”ychwanegodd.

Mae Mark Forsyth, 54 oed, o’r Pant wedi bod yn mynychu'r sesiynau. Meddai:

“O’n i’n arfer chwarae rygbi ond dw i wedi bod heb ddim i’w wneud ers ymddeol o’r gêm. Oedd hi’n ddiflas iawn fy mod i’n methu chwarae. Mi welais i’r poster ar gyfer Rygbi Cerdded a Siarad a dw i’n dod ers pedair neu bump wythnos erbyn hyn. Dw i wrth fy modd. Mae fy ngwaith yn golygu llawer o yrru ac o’n i eisiau cael y cyhyrau i weithio'n wahanol. Ac o ran iechyd meddwl, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai unig iawn, felly mae’n braf cael gweld wynebau newydd unwaith eto.”

Dydy Janet Hall o Manafon erioed wedi chwarae rygbi o'r blaen, ond mae wedi bod yn mwynhau ei nos Iau ar y cae:

“Mae'n dipyn o ymarfer, er mai cerdded yden ni, ond does yna ddim peryg o anaf a dydy o ddim yn ymosodol. Mae'n bwysig cadw’n heini, ac ar ôl y cyfnod clo, mae'n braf cael cymdeithasu hefyd. Mae gen i asthma felly mae'n bwysig i fi gadw’n gorfforol heini.”

Yn y cyfamser, mae Mike Carter, 78 oed, o Ffordun, yn dod i'r sesiynau gyda'i fab Tom sy’n 39 oed.

“O’n i’n arfer chwarae rygbi dros yr ysgol a fi oedd y capten. Yn yr Ariannin yn 1963 oedd y gêm ddiwethaf i fi chwarae. O’n i yn y Llynges Fasnachol ac o’n i’n chwarae i gwmni’r llong. Dw i hefyd yn mynd i nofio ddwywaith yr wythnos. Mae'n bwysig cadw'n heini – mae wedi fy nghadw i'n iach – ond dw i hefyd yn mwynhau."

Disgwylir i'r hyfforddwyr yng Nghlwb Rygbi'r Trallwng gael hyfforddiant iechyd meddwl ym mis Medi fel eu bod yn gallu adnabod arwyddion a symptomau salwch iechyd meddwl. Bydd rhieni chwaraewyr iau yn cael cyfle i gael hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl, ac mae cwrs hyfforddi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn mynd i gael ei drefnu hefyd.

Meddai Julia Gorman, Uwch Reolwr Cyflenwi Cymdeithas Pont-hafren:

“Mae rhaniad 60/40 yn nifer y merched a’r dynion sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Yn aml, fe fydd merched yn fwy parod i estyn allan am gefnogaeth na dynion, a’r gobaith efo'r prosiect yma ydy helpu i bontio'r bwlch yna.

“Drwy fod yn bresennol yn y sesiynau rygbi ac yn weladwy yn y gymuned, mi allwn ni annog mwy o bobl i ddefnyddio’n gwasanaethau.”

Mae Pont-hafren yn gweithredu canolfannau yn y Drenewydd a'r Trallwng yn ogystal â gwasanaeth allgymorth yn Llanidloes.

Mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at brosiectau ledled Cymru sy'n ein hannog i wella ein hiechyd a'n lles.

Joy Garfitt yw'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Meddai: “Mae yna bethau bychain y gallwn ni eu gwneud i helpu i wella ein hiechyd a’n lles drwy fod yn fwy heini, bwyta’n dda ac amddiffyn ein hiechyd meddwl. Dyma enghraifft wych o glwb sy’n gwneud gwaith da iawn.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, mae cefnogaeth am ddim ar gael i chi. Gall rhaglen ar-lein SilverCloud GIG Cymru helpu gyda gorbryder, iselder ysbryd a straen. Gallwch chi atgyfeirio eich hunan yn https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup

Gallwch hefyd atgyfeirio eich hunan at Gymdeithas Pont-hafren i gael gwasanaeth cwnsela yn www.ponthafren.org.uk neu ffonio 01686 621586.

Os hoffech chi roi cynnig ar Rygbi Cerdded a Siarad, cysylltwch â droberts@wru.wales. Mae’r sesiynau’n digwydd ar faes chwarae Maes y Dre yn y Trallwng bob nos Iau rhwng 6 a 7.