Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Brechu COVID dos cyntaf ac ail ddos - 11 a 12 Awst

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 11 neu 12 Awst ar gyfer eich dos cyntaf os ydych chi'n oed 18+, neu byddwch chi'n troi'n 18 cyn 31 Hydref 2021.

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 11 neu 12 Awst ar gyfer eich ail ddos os oedd eich dos cyntaf ym Mhowys cyn 17 Mehefin 2021.

 

Mae gennym sesiynau dos cyntaf ac ail ddos galw heibio yn ein Canolfannau Brechu Torfol wythnos yma. Nid oes angen apwyntiad.

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

  • ydych yn teimlo'n sâl

  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

 

Ysbyty Bronllys
Dydd Mercher 11 Awst, 1yp - 4.30yp

Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair-ym-Muallt
Dydd Iau 12 Awst, 9.30yb - 4.30yp

 

Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.
Mae ail ddos ar gael gyda Pfizer ac AstraZeneca. Byddwch yn derbyn yr un math o frechlyn ag a gawsoch ar gyfer eich dos cyntaf.

Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan: https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

Rhannu:
Cyswllt: