Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Brechu COVID dos cyntaf ac ail ddos - wythnos yn dechrau 11 Hydref

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 11 - 15 Hydref ar gyfer eich dos cyntaf os ydych chi'n 16+ oed.

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 11 - 15 Hydref ar gyfer eich ail ddos os ydych chi'n 18+ oed ac mae'n fwy na deng wythnos ers eich dos Pfizer cyntaf (mae ail ddosau AZ trwy apwyntiad).

 

Mae gennym sesiynau dos cyntaf ac ail ddos alw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol rhwng 11 - 15 Hydref. Nid oes angen apwyntiad.

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

  • ydych yn teimlo'n sâl

  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

Ysbyty Bronllys

  • Dydd Llun 11 Hydref, 9.30yb - 4yp

  • Dydd Mawrth 12 Hydref, 11.30yb - 2.30yp

  • Dydd Mercher 13 Hydref, 9.30yb - 4yp

  • Dydd Iau 14 Hydref, 9.30yb - 4yp

  • Dydd Gwener 15 Hydref, 11.30yb - 2.30yp

Maes Sioe Brenhinol Cymru, Builth Wells

  • Dydd Llun 11 Hydref, 11.30yb - 2.30yp

  • Dydd Mawrth 12 Hydref, 9.30yb - 4yp

  • Dydd Mercher 13 Hydref, 11.30yb - 2.30yp

  • Dydd Gwener 15 Hydref, 9.30yb - 4yp

Canolfan Hamdden Maldwyn, Y Drenewydd

  • Dydd Mawrth 12 Hydref, 11.30yb - 2.30yp

  • Dydd Mercher 13 Hydref, 9.30yb - 4yp

  • Dydd Iau 14 Hydref, 9.30yb - 4yp

  • Dydd Gwener 15 Hydref, 11.30yb - 2.30yp

 

Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan: https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

 

Rhannu:
Cyswllt: